/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y cyn-gynghorydd a'r dyn busnes O P Huws wedi marw

O P HuwsFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
  • Cyhoeddwyd

Mae O P Huws, cyn-gynghorydd Plaid Cymru dros Llanllyfni a Nantlle ar Gyngor Gwynedd, wedi marw yn 82 oed.

Roedd Owen Pennant Huws hefyd yn ddyn busnes - ar ddechrau'r 1990au sefydlodd Fideo Sain fel adran annibynnol o fewn Cwmni Recordiau Sain ac roedd yn un o gyfarwyddwyr Sain.

Roedd hefyd yn un o sefydlwyr Antur Nantlle - cwmni cymunedol sy'n gweithio er lles ardal Dyffryn Nantlle - ar ddechrau'r 1990au, a bu'n un o gyfarwyddwyr Bragdy Lleu ym Mhenygroes rhwng 2013 a 2017.

Roedd O P Huws yn dod yn wreiddiol o Ddyffryn Ceiriog ond symudodd i Ddyffryn Nantlle pan yn ifanc.

Un o'i fusnesau cyntaf oedd magu miloedd o gywion ieir a thyrcwn ar ei fferm yn Nebo, Gwynedd.

Roedd Sain wedi bod yn dosbarthu fideos o raglenni S4C ers canol yr 80au ond sicrhaodd Fideos Sain bod fideos gwreiddiol yn cael eu dosbarthu - yn eu plith Wil Cwac Cwac a Guto Gwningen.

Yn 1997 datblygodd Fideo Sain yn adran aml-gyfryngol ac O P Huws oedd y pennaeth.

Yn 2007, fe ymddeolodd O P Huws fel pennaeth yr Adran Amlgyfrwng. Ymddiswyddodd fel cyfarwyddwr Sain yn 2019.

'Cenedlaetholwr pybyr'

Mewn datganiad dywedodd cwmni Sain eu bod yn anfon eu "cydymdeimlad llwyraf at y teulu cyfan, ac yn arbennig ei blant Bleddyn, Gwennan ac Elin".

"Yn enedigol o Lyn Ceiriog, bu O P yn rhan o nifer o gwmnïau a mentrau cymunedol yn Nyffryn Nantlle, a bu ei gyfraniad i gwmni Sain yn allweddol dros sawl degawd.

"Roedd yn genedlaetholwr pybyr, a bu'n gynghorydd sir yn enw Plaid Cymru am nifer o flynyddoedd, gan fod yn gefn i sawl menter gymdeithasol a masnachol yn ei gymuned.

"Roedd yn gymeriad byrlymus, a bydd colled fawr ar ei ôl."

'Cymeriad hwyliog a gyfrannodd gymaint'

Dechreuodd O P Huws ymgyrchu dros Blaid Cymru ar ôl cael ei ysbrydoli gan un o gynghorwyr Dyffryn Nantlle, Wmffra Roberts.

Roedd yn gynghorydd Plaid Cymru dros Lanllyfni a Nantlle ar Gyngor Gwynedd hyd at 2012.

Yn Hydref 2023, derbyniodd Wobr Cyfraniad Arbennig yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth.

Cafodd y wobr honno ei chyflwyno gan ei ffrind Alun Ffred, a'i derbyn gan ei fab, Dr Bleddyn Owen Huws, Uwchddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, cadeirydd Cyngor Gwynedd, y bydd yn "ei gofio fel person ffraeth a phenderfynol ond bob amser yn gwrtais ac yn uchel iawn ei barch ymysg ei gyd-gynghorwyr".

"Roedd Dyffryn Nantlle yn agos iawn at ei galon a bydd coffa da amdano fel un a weithiodd yn galed dros bobl a chymunedau ei fro.

"Rydym yn cydymdeimlo gyda'i deulu a'i gyfeillion ac yn meddwl amdanynt yn eu colled."

Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd fod O P Huws yn "ddyn a gyfrannodd gymaint i gymuned Dyffryn Nantlle lle rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth diwyd fel cynghorydd.

"Cofiwn am ei gymeriad hwyliog ei ddycnwch gwleidyddol a'i gariad tuag at ei gymuned a'i wlad."

Mae Aelod Arfon yn Senedd Cymru, Siân Gwenllian, hefyd wedi cyfeirio at ei "ymrwymiad diflino".

Ar y cyfryngau cymdeithasol meddai: "Cefais y fraint o wasanaethu ochr yn ochr ag O P fel cynghorydd a gwelais drosof fy hun ei ymrwymiad diflino i'w gymuned ac i achos Plaid Cymru.

"Bydd ei waith wrth sefydlu Antur Nantlle a chefnogi addysg leol yn waddol parhaol."

Pynciau cysylltiedig