/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dirprwy arweinydd yn goroesi cynnig diffyg hyder dros ffrae iaith

Paul Miller
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Miller wedi goroesi'r cynnig o ddiffyg hyder ynddo

  • Cyhoeddwyd

Mae cynnig o ddiffyg hyder yn Nirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro wedi ei wrthod, ar ôl iddo gael ei gyhuddo o wneud "sylwadau annerbyniol" am addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir.

Fe sbardunwyd y ffrae pan ddywedodd Paul Miller wrth ei gyd-aelodau yn y cabinet ei fod yn adnabod rhieni yn ardal Neyland "nad oedd yn poeni o gwbl" bod eu plant yn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg yn Ysgol Caer Elen - sydd yn ysgol cyfrwng Cymraeg - ond eu bod nhw'n anfon eu plant i'r ysgol am ei bod hi'n ysgol dda.

Aeth ati i lunio gwelliant i Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, yn galw ar swyddogion i archwilio'r posibilrwydd o gasglu gwybodaeth gan rieni oedd am ddewis addysg cyfrwng Cymraeg.

Fe newidiwyd geiriad y gwelliant mewn cyfarfod pellach o'r cabinet yn dilyn beirniadaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg a chynghorwyr y gwrthbleidiau.

Fe ofynnwyd i swyddogion addysg holi rhieni am "iaith" fel cymhelliant wrth ddewis ysgol, yn hytrach na'r Gymraeg yn benodol.

Yn ôl arweinydd y grŵp annibynnol, y Cynghorydd Huw Murphy, roedd y Cynghorydd Miller wedi anwybyddu barn y pwyllgor craffu addysg, uwch swyddogion y cyngor, Comisiynydd y Gymraeg a'r Ysgrifennydd Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford.

Ysgol Caer Elen, Hwlffordd
Disgrifiad o’r llun,

Sylwadau am Ysgol Caer Elen, Hwlffordd oedd wedi sbarduno'r ddadl ymhlith aelodau

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Mr Drakeford nad oedd yn gweld rheswm dros gasglu gwybodaeth pam roedd rhieni yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant.

Mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Penfro ddydd Llun, yn ystod dadl danllyd ar adegau, dywedodd y Cynghorydd Miller ei bod hi'n "synhwyrol iawn" i gasglu data am resymau rhieni dros ddewis ysgolion, ac fe gyhuddodd y Cynghorydd Murphy o "geisio creu rhaniadau yn y sir".

Dywedodd mai Sir Benfro oedd wedi gweld y cynnydd mwyaf o ran canran, o blith holl siroedd Cymru, mewn addysg Gymraeg y llynedd.

Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol, Di Clements, wrth y cyfarfod fod y Cynghorydd Miller wedi dangos "diffyg crebwyll" yn ei ddefnydd o "iaith anaddas" ond roedd hi'n feirniadol o'r penderfyniad i gynnal cyfarfod arbennig, gan honni ei fod wedi costio £2,000 i drethdalwyr y sir.

Yn ôl y Cynghorydd Clements, mi fyddai'n fwy buddiol i gynghorwyr a swyddogion ddarganfod ffyrdd o fynd i'r afael gyda'r "twll du ariannol" yng nghoffrau'r cyngor.

'Ddim wedi gwrando ar swyddogion'

Fe gefnogwyd y sylwadau gan y Cynghorydd Aled Thomas, wnaeth ddweud bod yr iaith a ddefnyddiwyd gan Paul Miller yn "dwp" ond bod hawl ganddo "godi barn gan bobl wnaeth ei ethol".

Cefnogwyd y cynnig gan y Cynghorydd Delme Harries wnaeth ddweud wrth y cyfarfod y dylai'r cyngor fod yn "dathlu dewis" nid "cwestiynu dewisiadau".

Dywedodd y dylai "neb gwestiynau pam bod pobl yn dewis addysg yn Gymraeg". Roedd cyfrifoldeb ar gynghorwyr, meddai, i "ymrwymo i gefnogi addysg yn y Gymraeg".

Yn ôl y Cynghorydd Anji Tinley, er bod y Cynghorydd Miller wedi dweud nad oedd yn wrth-Gymreig, roedd angen mwy o dystiolaeth yn y siambr bod cynghorwyr o blaid y Gymraeg.

Fe gyhuddwyd y Cynghorydd Murphy gan arweinydd y cyngor Jon Harvey o geisio "achub mantais yn wleidyddol", ac roedd honiad bod y weinyddiaeth wedi ymrwymo i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

Fe ddaeth y feirniadaeth mwyaf damniol gan gyn-arweinydd y cyngor, Jamie Adams.

Dywedodd y cynghorydd annibynnol fod y Cynghorydd Miller yn rhoi'r "argraff ei fod yn gwybod yn well na phawb arall" ac o "beidio gwrando ar swyddogion."

Apeliodd arno i "ystyried ei ddefnydd o eiriau a'r modd eu cyflwynwyd". Fe gefnogodd y mesur o ddiffyg hyder gan ddweud ei fod yn "rhan o ddemocratiaeth".

Cafodd y mesur o ddiffyg hyder yn y Cynghorydd Miller ei drechu gyda 28 pleidlais yn erbyn ac 16 o blaid. Roedd 11 cynghorydd wedi ymatal rhag pleidleisio.