Lluniau: Trefi Cymru a Llydaw sydd wedi eu gefeillio

- Cyhoeddwyd
Mae sawl tref yng Nghymru wedi ei gefeillio gyda thref yn Llydaw ac mae'r cyfeillgarwch rhyngwladol a Cheltaidd yn dyddio'n ôl sawl degawd.
Daeth y syniad o efeillio trefi'n boblogaidd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
Y syniad gwreiddiol oedd i geisio ailadeiladu'r cyfeillgarwch rhwng gwledydd yn dilyn yr ymladd.
Erbyn hyn mae trefi ar draws Ewrop wedi eu gefeillio ond yma yng Nghymru mae'r cysylltiad â Llydaw yn gryf.
Dyma luniau o rai o drefi Cymru a Llydaw sydd wedi'u gefeillio.
Caerfyrddin a Lesneven

Mae'r llun hwn wedi'i dynnu oddi ar Pont Lesneven yng Nghaerfyrddin

Eglwys Saint Michel yn Lesneven
Yn 2022 roedd y ddwy dref yn dathlu 40 mlynedd o efeillio.
Mae Lesneven wedi'i leoli tua 15 milltir i'r gogledd ddwyrain o Brest.
O ran poblogaeth mae tua 7,500 o bobl yn byw yn Lesneven i gymharu gyda 16,500 sy'n byw yng Nghaerfyrddin.
Mae Pont Lesneven yn fan poblogaidd yng Nghaerfyrddin i bobl fynd i dynnu lluniau o'r dref.
Aberystwyth a Saint-Brieuc

Prom Aberystwyth

Bae Saint Brieuc
Yn wahanol i dref Aberystwyth, dinas yw Saint-Brieuc sydd wedi'i lleoli yn ardal Côtes-d'Amor yn Llydaw.
Mae'r ardal wedi'i henwi ar ôl y sant o Gymru, Brioc a symudodd yno yn y 5ed ganrif.
Mae'n cael ei adnabod fel un o'r saith sant wnaeth ddarganfod Llydaw.
Mae'r ddinas hefyd wedi'i gyfeillio gyda Agia Paraskevi yng Ngroeg, Alsdorf yn yr Almaen a Gorazde yn Bosnia a Herzegovina.
Nid Saint-Brieuc yw'r unig leoliad sydd wedi'i gyfeillio gydag Aberystwyth chwaith.
Mae'r dref glan môr wedi gyfeillio gydag Arklow yn Iwreddon, Kronberg im Tanus yn Hesse yn yr Almaen, Esquel ym Mhatagonia a Yosano yn Kansai, Japan.
Caernarfon a Landerneau


Ym mae Brest, rhwng Léon a Cornouaille mae Landerneau wedi'i lleoli.
Mae'r dref yn enwog am ei bensaernïaeth, ac un o'r strwythurau mwyaf trawiadol yno yw Pont Rohan.
Adeiladwyd y bont yn 1510 ac mae hi'n un o'r pontydd hiraf yn Ewrop ble mae pobl yn medru byw arni mewn tai, ac mae ambell i siop arni hefyd.
Fe efeilliodd Caernarfon a Landerneau yn 1983 pan wnaeth maer y dref yn Llydaw benderfynu y byddai'n hoffi efeillio'r dref gyda rhywle yng Nghymru ble'r oedd yr iaith Gymraeg yn amlwg ac yn cael ei defnyddio gan y mwyafrif.
Llanidloes a Derval

Canol tref Llanidloes

Place de l'Eglise yn Derval
Mae Llanidloes wedi ei gefeillio gyda Derval yn ardal Loire Atlantique.
Mae 3,500 o bobl yn byw yn Derval ac mae'r gymuned yn debyg iawn o ran maint i Lanidloes.
Cafodd y cytundeb rhwng y ddwy dref ei arwyddo yn 1995 gan Faer Llanidloes ar y pryd, John Griffiths a Maer Derval Monsieur Michel Hunault.
Mae'r gefeillio yn dathlu 30 mlynedd o gysylltiad â chydweithredu eleni.
Crymych a Plomelin

Crymych

Eglwys Saint-Mellon yn Plomelin
Efeillwyd y ddwy dref nôl yn 1983.
Ym mis Mawrth bob blwyddyn mae'r Gouel Divi yn digwydd ble mae chwe thref agos i Plomelin sydd hefyd wedi'u gefeillio gydag un yng Nghymru yn dod at ei gilydd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Y chwe thref arall yw Pluguffan, Plonéour, Plogonnec, Plonévez-Porzay, a Loctudy.
Rhuthun a Briec de l'Odet

Rhuthun

Yn 1992 fe efeillwyd Rhuthun a Briec, sef tref fechan yn ardal Finisterre yn Llydaw.
Mae Briec yn enwog am gynhyrchu'r bisgedi enwog, Galettes, ac fel Rhuthun mae'n ardal amaethyddol iawn.
Pan oedd y ddwy dref yn dathlu degawd o efeillio, fe blannwyd coeden arbennig yng nghanol Briec a gafodd ei roi gan Goleg Llysfasi ger Rhuthun i nodi'r cyfeillgarwch rhwng y ddwy ardal.
Mae Briec hefyd wedi enwi sgwâr yng nghanol y dref yn Place de Ruthin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2024