/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Meddwl am ddyfodol y mab ar ôl fi farw yn cadw fi'n effro yn y nos'

Steffan a Gaynor DaviesFfynhonnell y llun, Gaynor Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gweld ei mab yn mwynhau byw yn annibynnol yn "faich anferth oddi ar fy ysgwyddau", meddai Gaynor Davies

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na bryder ynglŷn â'r hyn fydd yn digwydd i filoedd o bobl sydd ag anableddau dysgu difrifol ar ôl i'w rhieni farw.

Yn ôl elusen Mencap, dyw hyd at 75% o'r bobl hyn erioed wedi symud o'r cartref teuluol.

Mae rhai rhieni, meddai Mencap, hyd yn oed yn dweud eu bod yn gobeithio byw yn hirach na'u plant oherwydd yr ofn am yr hyn fyddai'n digwydd pe bai nhw'n marw gyntaf.

Ond mae grŵp o ffrindiau gydag anableddau yn benderfynol o "newid y drefn" drwy geisio dod o hyd i gartrefi eu hunain ble mae modd iddyn nhw fyw gyda'u gofalwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod "wedi ymrwymo i wella hygyrchedd mewn tai cymdeithasol".

'Cadw fi’n effro'

Mae Steffan, mab y gyflwynwraig a'r cynhyrchydd Gaynor Davies bellach wedi mynd i fyw yn annibynnol.

Dyw Steffan ddim yn gallu cyfathrebu drwy siarad ac mae'n defnyddio cadair olwyn.

Wrth siarad am ei phrofiad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Gaynor fod meddwl am ddyfodol Steffan hebddi hi yn ei chadw hi'n "effro" bob nos.

"Dwi'n siŵr fod pob rhiant yn meddwl am y peth, yn enwedig rhiant neu fam i blentyn ag anghenion dwys," meddai.

"Beth sy'n mynd i ddigwydd pan dwi'n marw? O'dd o’n cadw fi’n effro yn y nos.

"Pwy sy’n mynd i edrych ar ei ôl o fel dwi’n gofalu amdano fo? Pwy sy’n ei ddeall o fel dwi’n ei ddeall o">