Sut mae’r anthem wedi ysbrydoli ym Mhontypridd eleni

Llawysgrif o'r anthem o 1856
- Cyhoeddwyd
Cafodd ein hanthem genedlaethol ei sgwennu gan Evan a James James, tad a mab o Bontypridd ym 1856.
Erbyn heddiw mae’r anthem yn rhan annatod o’n bywydau ac am bron i ddwy ganrif rydym wedi ei chanu mewn eisteddfoddau, gemau rygbi, gemau pêl-droed, cyngherddau, a thafarndai.
Felly gyda’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael ei chynnal ym man geni’r anthem gadewch i ni edrych ar sut y mae wedi ysbrydoli rhai o ddigwyddiadau’r brifwyl (a’u teitlau!).
Gwlad! Gwlad! (Sioe theatr)

Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cyflwyno sioe theatr newydd Gwlad! Gwlad! yn yr Eisteddfod.
Tra roedd gweddill y cwmni yn ymarfer, cafodd BBC Cymru Fyw sgwrs gyda’r dramodydd Chris Harris am beth yn union yw'r sioe:
"Mae Gwlad! Gwlad! yn ddrama swrreal, ddireidus, episodig am etifeddiaeth yr anthem genedlaethol. Nid drama hanesyddol yw e, ond drama sydd wir yn ffocysu ar sut mae’r anthem yn siarad i ni fel cenedl heddiw.
"Dy’ ni’n cymryd y gynulleidfa o 1856 i 2074, ar siwrne weddol swrreal mewn i galon cenedlaetholdeb, a hynny mewn awr."
Er taw nid drama hanesyddol yw hon, mae gan Awen gysylltiad â hanes yr anthem. Maen nhw’n rheoli theatrau ar draws de Cymru, gan gynnwys y Muni ym Mhontypridd a Neuadd y Dref ym Maesteg, lle cafodd yr anthem ei chanu’n gyhoeddus am y tro cyntaf yng Nghapel Tabor.

Chris Harris
Bu pobl Maesteg hefyd yn rhan o’r broses greadigol, meddai Chris.
"Wnaethon ni gychwyn gyda chwpwl o weithdai ym Maesteg gyda phobl y dref am beth oedd yr anthem yn olygu iddi nhw.
"Ac o hynny o'dd lot fawr o ddeunydd wedi dod allan, gan gynnwys yr ymchwil hefyd wnes i o gwmpas y pwnc am beth mae'r anthem yn ei ddweud, a sut mae e’n siarad i bobl; ydy e’n siarad ‘da pob un person sy’n cael ei gynrychioli yng Nghymru">