Addo mwy o drenau i'r gogledd mewn cynllun £2bn, ond pwy sy'n talu?

Mae rhagor o wasanaethau rhwng Wrecsam a Lerpwl yn rhan o'r cynlluniau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates wedi cyhoeddi cynllun gwerth £2.1bn i ailwampio rhwydwaith rheilffyrdd gogledd Cymru.
Ond does dim ymrwymiad ariannol gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn.
Mae'r cynigion yn cynnwys technoleg Talu Wrth Fynd (tapio i mewn ac allan), trydaneiddio rheilffyrdd ynghyd â gwasanaeth metro rhwng Wrecsam a Lerpwl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £13m i roi'r cynllun ar waith, gyda gweledigaeth i'w weithredu'n llawn erbyn 2035 ac "ymhellach".
Ond byddai'r cynllun yn ddibynnol ar arian gan Lywodraeth y DU yn San Steffan er mwyn gwireddu'r cwbl.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.

Mae system Talu Wrth Fynd yn rhan o'r cynigion
Fel rhan o gymal cyntaf y cynllun mae gwaith ar y lein i alluogi gwasanaeth metro rhwng Wrecsam a Lerpwl.
Mae addewid hefyd am "orsafoedd gwell a mwy o drenau", gyda chynlluniau i ddyblu'r gwasanaethau rhwng Wrecsam a Chaer erbyn Mai nesaf.
Bydd hefyd cynnydd o 50% yn nifer y gwasanaethau ar brif linell y gogledd, gan gynnwys llwybr newydd o Landudno i Lerpwl, ynghyd ag ymestyn gwasanaeth Maes Awyr Manceinion i Gaergybi.
Dywedodd y gweinidog, Ken Skates fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar draws dros y ffin i "droi breuddwydion yn realiti", a chyflwyno'r cynllun ar "gyflymder digynsail".
Fe wnaeth addewid o "fwy o wasanaethau, mwy o drenau newydd. Rheilffordd well i ogledd Cymru", gan ddweud bod "cyfle i gyflawni prif bwrpas trafnidiaeth gyhoeddus - i yrru twf economaidd a ffyniant i bawb".
'Arian yw'r peth sy'n allweddol'
Mae nifer o gynlluniau ac addewidion i wella rheilffyrdd y gogledd wedi eu gwneud dros y degawdau, gan lywodraethau Cymru a'r DU.
Yn 2023, fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog Ceidwadol, Rishi Sunak, addo trydaneiddio'r llinellau ar gost o tua £1bn, addewid na ddaeth i fwcl.
Ar hyn o bryd, nid yw'n glir a fydd Llywodraeth y DU yn cymeradwyo galwadau am fwy o gyllid ar gyfer rheilffyrdd Cymru.
Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan eisoes wedi dweud fod Llywodraeth y DU yn trafod "buddsoddiad sylweddol" gyda gweinidogion yng Nghaerdydd ar restr hir o brosiectau rheilffyrdd fel "gorsafoedd newydd".
Ond mewn llythyr ym mis Ionawr, fe ddaeth i'r amlwg fod Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Heidi Alexander, yn cefnogi amryw o gynlluniau yng ngogledd a de Cymru, gan gynnwys gorsafoedd newydd gwerth £335m rhwng Caerdydd a Magwyr.

Mae'r weledigaeth yn "wych", ond mae'r cyllid yn "anodd" meddai'r Athro Stuart Cole
Yn fwy diweddar, er bod llywodraethau Llafur yng Nghaerdydd a Llundain, nid oes eto unrhyw gyllid pendant wedi dod o ganlyniadau i gynllun HS2, er bod buddsoddiad rheilffyrdd yn ganolog i strategaeth "Ffordd Goch Gymreig" Eluned Morgan.
"Arian yw'r peth sy'n allweddol fan hyn," yn ôl yr Athro Stuart Cole sy'n arbenigo ar drafnidiaeth.
"Mae £2.1bn yn ffigwr rhesymol, £1bn ar gyfer llinell y gogledd a £1bn ar gyfer y gweddill. Ai ymgais wleidyddol sydd yma i gael mwy o arian? I ennill mwy o bleidleisiau?
"Mae etholiad yn dod ymhen blwyddyn, a does dim amheuaeth gen i y byddai llywodraeth Lafur yng Nghymru am ddangos eu bod yn cael cefnogaeth gan San Steffan."