/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Caerdydd: Arestio dau ddyn ar amheuaeth o lofruddio

Colin RichardsFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Colin Richards yn 48 oed ac yn dod o ardal Grangetown yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio Colin Richards yn ardal Trelái, Caerdydd.

Dywedodd Heddlu'r De bod dau ddyn, 26 oed a 18 oed, o Gaerdydd wedi eu harestio yn ardal Stoke a bellach yn y ddalfa.

Fe gafodd Mr Richards, 48, ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Snowdon, Trelái, yn dilyn adroddiad o ddigwyddiad ar Heol-Y-Berllan a Heol Trelái, Caerau, toc wedi 23:30, Ebrill 7.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r tad i saith yn dilyn anaf o gael ei drywanu.

Mae teulu Colin Richards wedi cael gwybod am y diweddara' ac yn cael cymorth gan swyddogion.

Pynciau cysylltiedig