/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Ffïoedd myfyrwyr Cymru i godi ymhellach i £9,250

MyfyrwyrFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cynnydd yn effeithio ar fyfyrwyr israddedig sy'n astudio yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd uchafswm ffïoedd myfyrwyr yng Nghymru yn codi o £9,000 i £9,250 y flwyddyn o fis Medi ymlaen.

Mae'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn dweud ei fod yn cydnabod y bydd myfyrwyr yn siomedig.

Os bydd prifysgolion a darparwyr addysg eraill yn dewis cynyddu’r ffi i’r uchafswm newydd, bydd yn effeithio ar fyfyrwyr israddedig sy'n astudio yng Nghymru.

Bydd y benthyciad sydd ar gael i fyfyrwyr i dalu am ffïoedd dysgu hefyd yn codi hyd at £9,250.

Mae'r benthyciad yn golygu nad oes rhaid i fyfyrwyr dalu'r ffïoedd dysgu ymlaen llaw.

Mae myfyrwyr sydd â'u cyfeiriad cartref yng Nghymru, ond sy'n astudio mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig eisoes yn gorfod talu ffi o £9,250.

DarlithFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Heledd Fychan, bydd y cynnydd mewn ffïoedd yn "costio pobl allan o addysg"

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Mr Miles: "Rydym wedi gwrthod galwadau i godi'r uchafswm ffïoedd dysgu yn y gorffennol, ond mae pwysau chwyddiant parhaus ar ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru yn golygu nad oes modd osgoi cynnydd erbyn hyn.

"Bydd y newid hwn yn darparu cyllid ychwanegol i brifysgolion a darparwyr eraill yng Nghymru, gan helpu i ddiogelu darpariaeth a buddsoddiad ym mhrofiad y myfyrwyr."

Dywed Mr Miles mai'r cynnydd o 2.8% yw'r cyntaf ers 2011, ac ni fydd yn gwneud gwahaniaeth i ad-daliadau misol pan fydd benthyciadau yn dechrau cael eu had-dalu.

Bydd y cymorth cynhaliaeth ar gyfer israddedigion cymwys yn cynyddu 3.7%, sy'n is na'r gyfradd chwyddiant bresennol.

'Sefyllfa enbyd'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Heledd Fychan, y byddai'r cynnydd mewn ffïoedd yn "costio pobl allan o addysg".

"Mae ein prifysgolion mewn sefyllfa enbyd," meddai.

"Yn hytrach na buddsoddi ynddyn nhw, rydyn ni'n gweld y llywodraeth Lafur yn ei gwneud hi'n anoddach i fyfyrwyr o Gymru astudio yng Nghymru."

Pynciau cysylltiedig