/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl digwyddiad yng Nghaerdydd

Fan yr heddlu tu allan i dafarn The Church Inn yn Llaneirwg
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Bentre Llaneirwg yn oriau mân fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 61 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad difrifol honedig yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dafarn The Church Inn yn Llaneirwg tua 01:00 ddydd Sadwrn.

Mae ditectifs yn chwilio am ddyn 28 oed mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac yn apelio am dystion.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Laura Slocombe o Heddlu De Cymru: "Rydyn ni yn gwybod bod yna bobl yn yr ardal adeg y digwyddiad.

"Os nad ydyn nhw wedi siarad â swyddogion, rydym yn eu hannog i gysylltu â ni.

"Mae'r dyn sy'n cael ei amau o fod yn gysylltiedig â'r digwyddiad hefyd yn gwybod ein bod yn edrych amdano, ac rydym yn ei annog i fynd i orsaf heddlu."

Pynciau cysylltiedig