Cymdeithasau Cymraeg yn rhoi 'cartref' i Gymry ifanc

Fe wnaeth Alys (chwith) a Megan (dde) gwrdd yn y gymdeithas Gymraeg ym Mhrifysgol Nottingham
- Cyhoeddwyd
"Cyn i mi ddod o hyd i'r gymdeithas a fy ffrindiau Cymraeg, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i'n perthyn yma."
Dyna brofiad un fyfyrwraig o ogledd Cymru wrth iddi symud o "dref a chymuned lle mae'r Gymraeg yn gryf" i brifysgol yn Lloegr.
Mae myfyrwyr ar draws y DU wedi rhannu eu profiadau o symud i'r brifysgol fel siaradwyr Cymraeg ifanc gyda Cymru Fyw.
Dywedodd myfyriwr arall o'r Cymoedd bod ymuno â'r gymdeithas Gymraeg wedi rhoi "cartref oddi cartref" iddo, pan oedd o'n teimlo'n ynysig.
'Sylwais arni'n gwisgo siwmper Maes B'
Mae Megan, sy'n wreiddiol o Ruthun yn Sir Ddinbych, bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio milfeddygaeth ym Mhrifysgol Nottingham.
"Roedd hi'n deimlad eithaf estron" i symud i ddinas hollol newydd yn Lloegr, meddai.
Dywedodd ei bod hi wedi darganfod cartref trwy ymuno â'r gymdeithas Gymraeg, ac mae hi bellach yn cefnogi myfyrwyr eraill sy'n ymdopi â'r un profiadau.
Un o'r rhai y daeth Megan i'w hadnabod oedd Alys o Gaerdydd, gan sylwi ei bod hi'n gwisgo siwmper Maes B.
Roedd y ddwy wedi gallu uniaethu â'r profiad o fod yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf mewn dinas ddieithr.
"Mae cael y Gymraeg yn iaith gyntaf i chi ac yna symud yn brofiad alienating," meddai Alys.
Ond er hynny, dywedodd: "Mae dod i 'nabod pobl sy'n deall hynny wedi bod yn rhan enfawr o helpu fi i ymlacio."

Alys yw ysgrifennydd cymdeithasol y gymdeithas Gymraeg yn Nottingham, a Megan yw'r llywydd
Mae'r ddwy ffrind bellach yn rhedeg pwyllgor y gymdeithas.
Eu nod yw cynorthwyo Cymry ifanc i deimlo'n fwy cartrefol yn y brifysgol.
Maen nhw'n rhedeg boreau coffi sy'n annog siaradwyr Cymraeg o bob gallu i gymdeithasu.
Dywedodd Alys: "Mae pobl yn ei weld fel cymuned... gall prifysgol fod yn ynysig ar adegau felly mae unrhyw gyfle i fod yn rhan o rywbeth yn ddeniadol."
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
- Cyhoeddwyd12 Awst 2024
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
Er gwaethaf llwyddiant y gymdeithas, bu'n rhaid i'r merched ymdopi â sylwadau cas gan rai myfyrwyr.
"Byddai Saeson yn cerdded heibio ni [yn ffair y glas] a bod fel 'beth yw hwn">