'Dathliadau VE yn anodd i'n teulu ni wedi i ni golli Dylan'

Bu farw Dylan Jones o Sir Gâr yng Ngorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd
Wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal ar draws Cymru i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE, sef diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop, dywed teulu o Lansawel ger Llandeilo bod gwylio unrhyw ddigwyddiadau cysylltiedig â'r lluoedd arfog yn hynod o anodd.
Ddechrau Gorffennaf 2015 bu farw Dylan Jones, a fu'n filwr yn Afghanistan ac Irac, drwy hunanladdiad.
"Roedd bywyd mor anodd iddo fe wrth iddo ddioddef o PTSD wedi blynyddoedd caled yn y fyddin," meddai ei chwaer Amanda Jones wrth siarad â Cymru Fyw.
"Yr wythnos hon ynghanol dathliadau VE bydd nifer yn gofyn, pobl fel teulu ni, pam dathlu ar ôl beth y'n ni wedi bod trwyddo">