/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Barri: Rhyddhau un ar fechnïaeth wedi marwolaeth bachgen

Taha SoomroFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Taha Soomro yn y fan a'r lle

  • Cyhoeddwyd

Bu farw bachgen 16 oed o Grangetown, Caerdydd, mewn ffair ar Ynys y Barri ddydd Gwener.

Cadarnhaodd yr heddlu ddydd Sadwrn fod bachgen 15 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod, ond mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae Heddlu'r De yn parhau gyda'r ymchwiliad i farwolaeth Taha Soomro, wnaeth ddioddef yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel "digwyddiad meddygol," yn y Parc Pleser ar Ynys y Barri.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Taha yn y fan a'r lle.

Dywedodd y Parc Pleser fod y newyddion am y farwolaeth yn drist iawn a bod eu tîm "wedi gwneud eu gorau i gynorthwyo'r gwasanaethau brys" ar y pryd.

Mae teulu Taha wedi cael eu diweddaru ac yn parhau i gael eu cefnogi.

Ceir heddluFfynhonnell y llun, Visit Barry Island
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llu eu galw i'r ffair ym Mro Morgannwg ddydd Gwener, ychydig cyn 17:00

Dywedodd yr heddlu fod "ymholiadau helaeth" yn cael eu gwneud, er mwyn trio canfod achos ac amgylchiadau'r farwolaeth.

Cafodd y llu eu galw i'r ffair ym Mro Morgannwg ddydd Gwener, ychydig cyn 17:00.

Dywedodd llefarydd yr heddlu eu bod yn apelio ar unrhyw un oedd yn y Parc Pleser yn ystod y digwyddiad, sydd â gwybodaeth, i gysylltu gyda nhw.

Gorsaf Heddlu'r Barri
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu fod "ymholiadau helaeth" yn cael eu gwneud, er mwyn trio canfod achos ac amgylchiadau'r farwolaeth

Mae ditectifs yn arbennig o awyddus i dderbyn unrhyw ffilmiau ffôn symudol.

Maen nhw hefyd yn "annog pobl i osgoi dyfalu ar gyfryngau cymdeithasol," ac mae teulu Taha yn cael eu diweddaru gan swyddogion.

Dywedodd y Parc Pleser fod eu "meddyliau a'n gweddïau gyda'r teulu ar yr amser trist iawn hwn."

Mae'r parc yn parhau i fod ar agor ers 11:00 fore Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig