/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-1 Sheffield Wednesday

  • Cyhoeddwyd
Wayne Routledge sgoriodd y gôl fuddugolFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Wayne Routledge sgoriodd y gôl fuddugol

Daeth Bersant Celina o'r fainc ar ôl 65 munud i sgorio un gôl a chreu un arall wrth i Abertawe frwydro nôl i sicrhau buddugoliaeth ddramatic yn erbyn Sheffield Wednesday.

Roedd yr Elyrch ar ei hol hi ar ôl i Marco Matias fanteisio ar flerwch yn yr amddiffyn.

Ond pum munud ar ôl dod ar y cae fe wnaeth Celina ergydio yn gelfydd i'r rhwyd.

Munud yn ddiweddarach, fe wnaeth ei bas ryddhau Wayne Routledge i ergydio'r gôl fuddugol drwy goesau'r golgeidwad Cameron Dawson.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Abertawe yn codi i'r nawfed safle yn y Bencampwriaeth, pedwar pwynt y tu allan i'r safleoedd ailgyfle.