'Disgyblion heb gredyd ar eu cyfrif yn mynd heb fwyd'
- Cyhoeddwyd

Mae disgyblion yng Nghymru yn colli allan ar bryd cynnes yn yr ysgol os nad oes ganddyn nhw gredyd ar eu cyfrif fel rhan o'r system ddi-arian, yn ôl cynghorwyr.
Hefyd mewn rhai siroedd, mae'n cael ei honni bod bwyd yn cael ei daflu pan na fydd gan ddisgybl gredyd i dalu amdano.
Mae'r honiadau yn cael eu gwneud gan gymdeithas sy'n cynrychioli cynghorwyr tref yn y canolbarth a'r gogledd.
Mewn cyfarfod ddydd Gwener dywedodd cynghorwyr o siroedd ar draws y gogledd a'r canolbarth eu bod yn gwybod am ddisgyblion nad oedd wedi medru cael pryd ysgol oherwydd diffyg credyd.
'Fel yr oesoedd tywyll'
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Cynghorau Lleol y Gogledd a'r Canolbarth, y Cynghorydd Brian Roberts o Gyngor Tref Abergele: "Mae'n amlwg bod y sefyllfa yma yn bodoli ar draws Cymru ac mae'n warthus yn 2019.
"Mae hi fel ein bod yn yr oesoedd tywyll. Ni ddylai'r un person ifanc fynd heb fwyd.
"Sut maen nhw i fod i ddysgu os ydyn nhw eisiau bwyd">