/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Glasgow 38-19 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Josh McKayFfynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,

Josh McKay yn sgorio cais i'r Warriors yn erbyn y Gweilch

Neidiodd Glasgow Warriors uwchben y Gweilch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig gyda buddugoliaeth hyderus yn Scotstoun nos Sadwrn.

Ychwanegodd cais Sione Tuipulotu at sgôr gynnar Cole Forbes i roi tîm Danny Wilson ar y blaen 17-12 hanner amser.

Sgoriodd y cefnwr Josh McKay y drydedd, cyn ceisiau gan y canolwr Tuipulotu a Fraser Brown.

Tarodd Gareth Anscombe bedair cic gosb i'r ymwelwyr, cyn i Dan Evans groesi'r llinell a gwneud y sgôr yn fwy parchus.

Ond doedd y tîm o Gymru byth yn edrych fel gadael Glasgow gyda buddugoliaeth.

Pynciau cysylltiedig