/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-0 Huddersfield

  • Cyhoeddwyd
Ryan Manning yn dathlu gyda'i dimFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Manning sgoriodd unig gôl y gêm

Llwyddodd Abertawe i drechu Huddersfield 1-0 ar ddydd Sadwrn, gan eu cadw'n gyfforddus yng nghanol y tabl.

Sgoriodd Ryan Manning i'r tîm cartref wedi 69 munud, gan roi buddugoliaeth haeddiannol i'r Elyrch.

Mae Abertawe felly'n codi un safle i 13eg yn y tabl, ac maent bellach wedi ymestyn eu rhediad i bum gêm heb eu trechu.

Mae'r tîm wedi bod yn chwarae'n dda wrth i ddiwedd y tymor nesáu, ac mae eu llwyddiannau diweddar wedi eu tynnu ymhell yn glir o safleoedd y cwymp.