Cyfres o ffilmiau am benderfyniadau y mae'r cymeriadau yn eu hwynebu mewn bywyd, sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles.
Addas ar gyfer oedran 8-11 yng Nghymru at ddefnydd trawsgwricwlaidd sy'n cwmpasu'r Meysydd Dysgu a Phrofiad canlynol:
- Iechyd a Lles
- Y Dyniaethau
- Y Celfyddydau Mynegiannol
- Mathemateg a Rhifedd
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Stori Amber. video
Mae trip ysgol yn gwneud i Amber deimlo'n bryderus am sawl rheswm. A fydd hi'n gallu goroesi'r penwythnos a chyrraedd copa'r wal ddringo?

Stori Deio. video
Ers colli ei fam, mae Deio yn ei chael hi'n anodd bwyta'r bwyd y mae ei nain yn ei baratoi iddo. A fydd Deio'n gallu rhoi'r gorau i fwyta 'bwyd llwyd' a mwynhau'r atgofion o goginio gyda'i fam?

Stori Fleur. video
Mae'r pwysau i chwarae pêl-droed yn gwasgu ar Fleur ac mae'n penderfynu dianc ar ddiwrnod y twrnamaint. A ddylai hi drafod ei theimladau gyda rhywun?

Stori Geth. video
Pan mae capten y tîm pêl-droed yn cynnig diod a allai wella ei berfformiad i Geth, mae'n ei dderbyn yn syth. Er nad yw'n hoff o'r ddiod, mae'n prynu mwy a mwy i ffitio i mewn, nes bod pethau'n ffrwydro.

Stori Llio. video
Mae Llio yn ofalwr ifanc i'w thad, heb lawer o amser i'w hun. A fydd Llio yn penderfynu derbyn cymorth?

Stori Tegan. video
Mae Tegan yn cau ei hun allan o'r byd go iawn, ac yn cael cysur o chwarae gemau cyfrifiadurol yn ei hystafell wely. A fydd hi'n dod o hyd i gryfder i gamu allan o'r byd digidol?

Stori Trystan a Macs. video
Mae Trystan a'i frawd Macs yn cael eu bwlio yn yr ysgol, ond ddim yn dweud wrth unrhyw un. A fyddan nhw'n gadael i'r bwlis gario ymlaen, neu'n penderfynu siarad gyda rhywun?

Stori Tyler. video
Mae'r peth lleiaf yn gwylltio Tyler ac yn achosi iddo golli ei dymer. A fydd yn gallu dysgu i'w reoli a siarad am ei emosiynau?

Stori Will. video
Mae Will yn ceisio helpu sefyllfa ariannol ei deulu ac yn penderfynu dwyn arian. A fydd yn difaru gwneud hyn ac yn meddwl am ffyrdd arall o helpu ei rieni?


Health and Well-being (Wales) 8-11
English medium resources
