/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

PRO14: Connacht 29-22 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Fly-half Jack Carty scores Connacht's third tryFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Jack Carty yn croesi i Connacht

Fe wnaeth Connacht sicrhau eu lle yn gemau ail gyfle y Pro14 ar draul y Gleision gyda buddugoliaeth yn Galway.

Daeth 14 pwynt o esgid Jack Carty a chais yr un i Gavin Thornbury, Caolin Blade a Matt Healy.

Golygai'r canlyniad fod y tîm gartref yn sicr o'r trydydd safle yn Adran A.

Daeth ceisau y Gleision diolch i Owen Lane, Josh Turnbull a Jason Harries.

Ond roedd penderfyniad y TMO i wrthod cais arall i Harries yn allweddol.

Fe fydd y Gleision nawr yn cystadlu gyda'r Gweilch i orffen yn bedwerydd, a sicrhau safle rhif pedwar yn yr Adran a chyfle felly am gêm ail gyfle ar gyfer lle yn Nghwmpan Pencampwyr Ewrop.