Bil y Gymraeg ac Addysg yn pasio cyfnod allweddol

Bydd y Bil yn creu categorïau iaith statudol ar gyfer ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae deddf arfaethedig sy'n "ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol fel defnyddiwr iaith Gymraeg annibynnol" wedi pasio'r cam olaf ond un yn y Senedd ddydd Mawrth.
Cyfnod tri o'r pedwar yn y broses o greu deddf yn y Senedd oedd y drafodaeth fanwl olaf ar Fil y Gymraeg ac Addysg.
Mae'r Bil, o dan ofal Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg Mark Drakeford, yn nodi y bydd tri chategori o ran darpariaeth addysg Gymraeg ysgolion sef: (i) "Prif Iaith – Cymraeg" (ii) "Dwy Iaith" a (iii) "Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg".
Bydd yn "darparu sail statudol i'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050" ac yn sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol i "gynllunio datblygiad y gweithlu addysg a darparu hyfforddiant ar eu cyfer er mwyn gwella dysgu Cymraeg mewn ysgolion".
Mae disgwyl iddo basio pleidlais derfynol yn y Senedd yr wythnos nesaf cyn dod yn gyfraith.
Dywedodd Mark Drakeford wrth ASau bod y targed o filiwn o siaradwyr "wedi ysgogi ymdrechion cynifer o sefydliadau ac unigolion ledled Cymru i ymuno â ni ar y daith hon".

Cafodd y bil ei chyhoeddi yn wreiddiol fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru ond daeth y cytundeb i ben cyn unrhyw waith penodol ar lunio'r Bil
Mae tua 23% o ddysgwyr yn cael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.
Uchelgais strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yw cynyddu cyfran y grwpiau blwyddyn sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg i 30% erbyn 2030/31 a 40% erbyn 2050.
Roedd AS Plaid Cymru, Cefin Campbell, wedi ceisio cynyddu'r targed a'i osod yn y bil trwy gyflwyno gwelliannau, gan gynnwys ceisio ychwanegu:
"Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod o leiaf 50% o gyfanswm nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yng Nghymru yn mynychu ysgolion categori "Prif Iaith – Cymraeg" erbyn 31 Rhagfyr 2050."
"Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cynnydd bob degawd, o 10% o leiaf o gyfanswm nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yng Nghymru, yn nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion categori "Prif Iaith - Cymraeg".
Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar ASau i gefnogi'r gwelliant i gael targed o 50% yn y Bil, ond pleidleisiodd 39 aelod yn erbyn a 12 o blaid.
Meddai Toni Schiavone ar ran y gymdeithas cyn y ddadl: "Rydyn ni'n gwbl glir mai'r nod yw addysg Gymraeg i bawb, ac rydyn ni'n siomedig nad yw'n gwleidyddion wedi dilyn y trywydd yma".
"Fodd bynnag, mae'r ffaith nad oes targed addysg Gymraeg o gwbl yn y Bil ar hyn o bryd yn wendid mor sylfaenol, rydyn ni'n gweld y gwelliant yma fel un annigonol ond hanfodol er mwyn sicrhau bod cynnydd tuag at addysg Gymraeg i bawb, sy'n fater o gyfiawnder i genedlaethau'r dyfodol."
Ar ôl y ddadl, dywedodd bod y "llywodraeth a'r Senedd wedi colli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth".
Dywedodd Cefin Campbell yn y Senedd, "chwarter canrif wedi agor y Senedd hon, mae'n fater o siom bod y mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddifadu o'r cyfle i ddysgu'r Gymraeg yn ein cyfundrefn addysg a'i defnyddio yn eu bywyd pob dydd".
Ceisiodd Cefin Campbell hefyd gynyddu'r isafswm o addysg Gymraeg ar gyfer ysgolion categori prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg o 10 y cant i 20 y cant.
Ond dywedodd Mark Drakeford, "rwy'n credu bod cynyddu'r isafswm o addysg Gymraeg i 20 y cant yn arwain at risg sylweddol na fydd hi'n bosibl cyflawni hyn yn ymarferol".

Mae'n "siom bod y mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddifadu o'r cyfle i ddysgu'r Gymraeg" meddai Cefin Campbell
Dywedodd y Ceidwadwr Tom Giffard, "mae'n bwysig bod Senedd a phobl Cymru yn gwybod bod y Ceidwadwyr Cymreig o blaid yr iaith Gymraeg, ein bod ni o blaid Cymru, ein bod ni o blaid cyrraedd y targed o un filiwn o siaradwyr erbyn 2050".
Pasiwyd nifer o welliannau Ceidwadol i'r Bil a gafodd eu cyflwyno, meddai Tom Giffard, "gyda'r un nod a bwriad, sef cefnogi rhieni a gwarcheidwaid i helpu eu plant gyda gwaith ysgol a gwaith cartref os nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain".
Mae'r Bil hefyd yn cynnwys "mesurau lliniaru" er mwyn "osgoi unrhyw effeithiau negyddol ar rai grwpiau o blant a phobl ifanc", meddai Llywodraeth Cymru yn eu hasesiad effaith o'r Bil.
Yn eu plith, ni chaiff y ddarpariaeth Gymraeg ofynnol o 10% eu cyflwyno'n syth ar ôl pasio'r Bil, a gall ysgolion wneud cais i gael eu heithrio hyd at dair blynedd i ddechrau, gyda'r posibilrwydd o hyd at dair blynedd arall, rhag y gofyniad i ddarparu addysg Gymraeg yn unol â'u categori iaith.
10% yw'r isafswm o ddarpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer ysgol "Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg" sy'n gyfystyr ag oddeutu 2.5 awr yr wythnos ar gyfartaledd ac mae'n debygol y byddai'r gofyniad hwn yn cael ei gyflawni gan wersi Cymraeg (pwnc) yn bennaf.
Yn ôl yr asesiad effaith, roedd yr ymatebion i ymgynghoriad yn cynnwys "pryderon na ddylai addysgu Cymraeg gael blaenoriaeth dros addysgu pynciau allweddol megis Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg ac na ddylai leihau ansawdd yr addysgu yn y pynciau hynny".

Mae'r "llywodraeth a'r Senedd wedi colli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth" meddai Toni Schiavone
Mae'r llywodraeth yn cydnabod bod "risg isel… sydd ag effaith isel y gellir ei lliniaru" y "gall addysg ehangach gael ei effeithio wrth i'r addysg Gymraeg a ddarperir gynyddu, a hynny ar draul elfennau eraill o'r cwricwlwm o bosibl".
Er mwyn "lliniaru" y risg, meddai, "caiff ysgolion 'Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg' sy'n symud o'r sylfaen isaf tuag at yr oriau gofynnol o 10% eu cefnogi mewn llawer o ffyrdd".
"Ni chaiff yr oriau gofynnol eu cyflwyno yn syth ar ôl pasio'r Bil. Bydd cyfnod o amser wrth i reoliadau gael eu datblygu, a fydd yn rhoi amser i ysgolion gynllunio'n briodol er mwyn codi eu darpariaeth Gymraeg tuag at y lefel ofynnol.
"At hynny, mae'r Bil hefyd yn galluogi ysgolion i wneud cais i gael eu heithrio dros dro (hyd at dair blynedd i ddechrau, gyda'r posibilrwydd o hyd at dair blynedd arall) rhag y gofyniad i ddarparu addysg Gymraeg yn unol â'u categori iaith, pan fydd angen mwy o amser arnynt i gyrraedd y lefel ofynnol statudol."
- Cyhoeddwyd15 Chwefror
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn "cydnabod bod angen meithrin gwell dealltwriaeth o pam fod rhai grwpiau o ddysgwyr wedi'u tangynrychioli mewn addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd ac i gyflwyno mesurau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n cael eu nodi".
Ar hyn o bryd mae 3,284 o ddisgyblion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sef 4.3% o'r disgyblion yn yr ysgolion hynny.
Dywed y llywodraeth bod "trafodaethau â swyddogion awdurdodau lleol mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg wedi awgrymu y gall diffyg gwybodaeth, neu wybodaeth gamarweiniol, ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg atal pobl rhag manteisio arni".
Yn fwy cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru yn "ystyried bod y Bil yn gyfle i wella deilliannau ieithyddol grwpiau o ddysgwyr nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, gan gynnwys dysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant a phobl ifanc o deuluoedd incwm isel – beth bynnag fo categori iaith yr ysgolion y maent yn eu mynychu."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd o'r farn "y gallai'r Bil gyfrannu at yr agenda trechu tlodi drwy roi sgiliau Cymraeg i blant a phobl ifanc na fyddent o bosibl wedi cael y cyfle i'w datblygu fel arall."
"O ganlyniad, mae'n bosibl y bydd yr unigolion hyn yn gallu ymgeisio am swyddi lle mae'r Gymraeg yn ddymunol neu'n hanfodol, gan eu galluogi i fanteisio ar fwy o gyfleoedd yn y farchnad lafur na fyddai fel arall wedi bod yn agored iddynt."