/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Chwaraewr y Gweilch yn ddieuog o ddwyn pedair oriawr ddrud

Luke DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Luke Davies yn chwarae i'r Scarlets a Jersey Reds cyn ymuno â'r Gweilch

  • Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr rygbi o Gymru, a thri dyn arall, wedi eu cael yn ddieuog o gyhuddiadau o ladrata o eiddo yn Sir Gâr.

Roedd Luke Davies - mewnwr 22 oed y Gweilch - Adam Thomas, Jake Ball a Jordan Ball wedi gwadu dwyn pedair oriawr gwerth £1,800 o eiddo yn Llanelli ar noswyl Nadolig 2021.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau dywedodd Ieuan Rees, ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron, fod y mater wedi cael ei adolygu ac na fyddai unrhyw dystiolaeth ffurfiol yn cael ei gynnig yn erbyn y diffynyddion.

Dywedodd wrth y llys fod "yr achwynydd ddim wedi bod yn ymwneud â'r gwasanaethau erlyn".

"Mae ef ei hun yn destun ymchwiliad ar gyhuddiadau o dwyll," meddai.

Ychwanegodd Mr Rees y byddai gan "yr achwynydd ddim hygrededd" ac felly y byddai "dim gobaith o lwyddiant" yn yr achos yn erbyn y diffynyddion.

Fe wnaeth y Barnwr Geraint Walters gyhoeddi rheithfarnau dieuog felly yn achosion y pedwar dyn.