/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Gweithiwr iechyd yn gwadu cynllwynio i lofruddio plentyn

Ysbyty Athrofaol CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tracy Turner yn gweithio fel cynorthwyydd theatr yn Ysbyty Athrofaol Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae gweithiwr iechyd o Gaerdydd wedi cael ei chyhuddo o gynllwynio i lofruddio, herwgipio a threisio plentyn.

Mae Tracy Turner, 51 oed o ardal y Rhath, wedi pledio'n ddieuog i wyth cyhuddiad.

Mae'r rheiny'n cynnwys cynllwynio i dreisio a cham-drin merch dan 13 oed, ei herwgipio a'i llofruddio, yn ogystal â chyhuddiadau'n ymwneud â lluniau anweddus o blant.

Mae Ms Turner wedi'i chyhuddo ar y cyd â Stuart Compton, 45 o ardal Cathays, sydd hefyd yn gwadu'r cyhuddiadau o gynllwynio i lofruddio, herwgipio a threisio plentyn

Fe wnaeth y ddau ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd yn gynharach fis Ionawr, ac mae disgwyl i'r achos yn eu herbyn ddechrau fis Mai.

Mae Ms Turner yn gweithio fel cynorthwyydd theatr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro bod Ms Turner wedi cael ei gwahardd a'u bod yn cydweithio â'r heddlu.