/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Elin Undeg Williams yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd

Medal DdramaFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Undeg Williams yn 18 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd

  • Cyhoeddwyd

Elin Undeg Williams o Fetws Gwerful Goch, Sir Ddinbych, sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr.

Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i'w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod dros 15 munud o hyd.

Yn ôl y beirniad, Heiddwen Tomos a Sêra Moore Williams, daeth 14 ymgais i law mewn cystadleuaeth "safonol iawn".

Ffred Hayes o Gaerdydd oedd yn ail y gystadleuaeth, a Mali Grigg o Fangor oedd yn drydydd.

Eleni mae'n hanner can mlynedd ers i'r Fedal Ddrama gael ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd, a hynny yn Llanelli yn 1975.

Disgrifiad,

Am beth mae'r ddrama fuddugol? Elin Undeg Williams fu'n egluro i Cymru Fyw

Mae Elin yn 18 oed ac yn astudio Cymraeg, Hanes ac Addysg Grefyddol yn Ysgol Brynhyfryd.

Ei bwriad ar gyfer mis Medi yw mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio'r Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol.

Mae hi'n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled, ac yn edrych ymlaen at gystadlu fel aelod o Aelwyd Llangwm yn yr Eisteddfod ddiwedd yr wythnos.

Dywedodd ei bod eisiau diolch i athrawon yn Adran Gymraeg Ysgol Brynhyfryd am fod mor gefnogol, ac i'w theulu am bopeth.

Drama sy'n 'cyffwrdd calon'

Dywedodd y beirniaid eu bod wedi'u "plesio yn fawr, gydag addewid a hyder yng ngwaith pob un" o'r 14 ymgeisydd.

Am waith buddugol Elin, dywedon nhw: "Dyma ddrama amserol gyda deialog gelfydd am sefyllfa anodd.

"O'r darlleniad cyntaf roedd y ddwy ohonom wedi dwli arni. Mae yna fomentau arbennig sydd wir yn cyffwrdd calon.

"Mae'r 'sgrifennu yn arbennig ac yn swyno'r darllenydd.

"Mae yma ddyfnder a dealltwriaeth wirioneddol o gymeriadau y gellid yn hawdd uniaethu â nhw.

"Mae'r neges yn gafael a'r tynerwch rhwng y ddau gymeriad yn cynnal y ddrama."

Bydd Elin yn cael cyfle i dreulio amser yng nghwmni'r Theatr Genedlaethol a derbyn hyfforddiant pellach gyda'r BBC.