/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Morgan i gwrdd â Starmer ar ôl beirniadu ei bolisi mewnfudo

Eluned Morgan a Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eluned Morgan a Syr Keir Starmer yn cynnal trafodaethau yn Llundain ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd

Bydd polisïau mewnfudo Syr Keir Starmer yn niweidiol i Gymru, mae Eluned Morgan yn ofni.

Mewn cyfweliad â phodlediad Political Thinking y BBC, dywedodd Prif Weinidog Cymru na fyddai hi wedi defnyddio'r un iaith â Phrif Weinidog y DU - a gyfeiriodd at "ynys o ddieithriaid".

Fe ddywedodd Ms Morgan hefyd y bydd hi'n "aros" i'r chwith o wleidyddiaeth Syr Keir, a bod angen i'w phlaid drin Plaid Cymru fel "bygythiad" gwirioneddol yn etholiadau'r Senedd yn 2026.

Daw ei sylwadau cyn iddi gynnal trafodaethau gyda Syr Keir yn Llundain ddydd Gwener.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth Syr Keir awgrymu fod y DU mewn peryg o ddod yn "ynys o ddieithriaid" heb gyflwyno mesurau mewnfudo llymach.

Wrth ateb cwestiwn am y sylwadau hynny, dywedodd na fyddai hi wedi defnyddio'r fath yna o iaith ac y gallai'r fath sylwadau niweidio Cymru.

"Dwi'n awyddus iawn i wneud yn siŵr fod pobl yn gyfforddus, yn rhan o gymuned ac yn teimlo bod croeso iddyn nhw," meddai.

"Yng Nghymru rydyn ni'n galw ein hunain yn genedl noddfa - rhywle ble mae pobl yn cyrraedd, rydyn ni'n eu croesawu, ac yn gwneud iddyn nhw deimlo fel eu bod yn rhan o'n cymunedau.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n werth pwysleisio mai tua 7% o boblogaeth Cymru sy'n fewnfudwyr, sy'n ffigwr lawer llai o'i gymharu â rhannau eraill o'r wlad."

Ychwanegodd fod "mwy neu lai" 50% o ddoctoriaid a deintyddion gorllewin Cymru "yn bobl sydd wedi cael hyfforddiant dramor".

"Dwi yn poeni am wasanaethau gofal yn arbennig, ond mae cael digon o bobl i weithio mewn tafarndai ac ati yn yr haf yn y sector dwristiaeth hefyd yn her."

Yn y cyfamser, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd polisi mewnfudo Syr Keir yn mynd yn ddigon pell.

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Morgan yn dweud ei bod hi'n "rhoi Cymru yn gyntaf"

Mae Eluned Morgan wedi bod yn fwy parod i feirniadu Llafur y DU yn yr wythnosau diwethaf.

Mewn cyfweliad gydag ITV Cymru nos Fercher, fe wnaeth hi alw ar Syr Keir Stamer i roi rhagor o arian i Gymru.

Daw'r strategaeth newydd wrth i Lafur Cymru baratoi eu hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, gydag arolygon barn diweddar awgrymu y bydd hi'n ras agos rhwng Llafur, Plaid Cymru a Reform.

Mae'r arolwg diweddaraf yn awgrymu bod Plaid Cymru ar y blaen (30%), bod Reform yn ail (25%), Llafur yn drydydd (18%) a'r Ceidwadwyr yn bedwerydd (13%).

Mae Llafur wedi ennill pob etholiad i'r Senedd ers ei dyfodiad yn 1999, ac wedi arwain bob llywodraeth sydd wedi cael ei ffurfio ym Mae Caerdydd.

'Dilyn y ffordd goch Gymreig'

Dywedodd Ms Morgan fod ei llywodraeth "wedi elwa yn fawr o ganlyniad i fod â Llywodraeth Lafur yn San Steffan, ac rydyn ni wedi gweld y cynnydd mwyaf i'n cyllideb ers i'r Senedd gael ei sefydlu".

Ond pwysleisiodd ei bod hi'n "rhoi Cymru yn gyntaf".

"Rydw i'n gwneud yr hyn mae'n ei ddweud ar fy ngherdyn aelodaeth Llafur: 'Gwlad yn gyntaf'. Efallai nad yw fy ngwlad i yr un wlad ag yr oedd gan Syr Keir yn ei ben pan ysgrifennodd o'r cardiau hynny."

Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru fod Reform yn cynnig "her" i'r blaid Lafur ond "bod Plaid Cymru hefyd yn fygythiad y mae'n rhaid i ni ei drin o ddifrif".

Nid oes modd ei chymryd yn ganiataol "y bydd Llafur wastad mewn grym yng Nghymru".

"Rydw i am fod yn driw i'r hyn rydw i yn ei gredu, ac mae hynny'n golygu nad ydw i am symud i'r dde er mwyn brwydro Reform.

"Dwi am ddilyn y ffordd goch Gymreig, sydd efallai, mwy i'r chwith na phlaid Lafur y DU ar hyn o bryd."

Eluned Morgan a Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Morgan wedi croesawu'r newyddion bod Syr Keir yn ystyried gwneud newidiadau i'r polisi lwfans tanwydd y gaeaf

Fe wnaeth Eluned Morgan groesawu'r newyddion bod Syr Keir Starmer yn ystyried tro pedol i'r polisi lwfans tanwydd y gaeaf.

Dydi hi ddim yn glir ar hyn o bryd faint yn fwy o bobl fydd yn gymwys ar gyfer y taliadau, na chwaith pryd fydd y newidiadau yn dod i rym.

"Dydw i ddim yn siŵr a ddylai miliwnyddion fod yn gymwys ar gyfer y taliadau, felly beth am wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n ei dderbyn," meddai Ms Morgan.

"Fyswn i'n hoffi gweld y mwyafrif o bensiynwyr yn derbyn y budd-dal."

Bydd Ms Morgan a Syr Keir yn rhan o drafodaethau Cyngor y Gwledydd a'r Rhanbarthau ddydd Gwener.

Dywedodd Downing Street y bydd Prif Weinidog y DU yn dweud wrth arweinwyr y llywodraethau datganoledig y bydd cytundebau masnach newydd gydag India, UDA a'r UE yn arwain at dwf economaidd.