/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Tri yn gwadu bod yn rhan o dwyll £5m mewn coleg chweched dosbarth

Ragu Sivaplan a Nadeem SarwarFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Ragu Sivaplan a Nadeem Sarwar yn cyrraedd y llys ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae tri pherson wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau'n ymwneud â thwyll gwerth £5m mewn coleg chweched dosbarth yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth Nadeem Sarwar, 48 o Bentwyn bledio'n ddieuog i naw cyhuddiad o dwyll a dwyn a oedd yn dod i gyfanswm o fwy na £5m.

Fe wnaeth Yasmin Sarwar o Gyncoed, bledio'n ddieuog i'r naw cyhuddiad yn ei herbyn, sydd hefyd yn cynnwys twyll a dwyn.

Fe wnaeth Ragu Sivapalan, 39 o Ben-y-lan, bledio'n ddieuog i gyhuddiad o gyfrifyddu anwir rhwng Ionawr 2013 a Gorffennaf 2016.

Roedd y tri yn gyfarwyddwyr neu'n ymddiriedolwyr yng Ngholeg Chweched Dosbarth Caerdydd.

Bydd yr achos yn eu herbyn yn dechrau fis Medi 2026, ac mae'r tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Pynciau cysylltiedig