O Saatchi and Saatchi i ffermio ym Mhenmachno

Iona Roberts - neu Iona Pen Ffridd fel mae'n cael ei hadnabod
- Cyhoeddwyd
Dydi Iona Roberts ddim yn ffitio'r ddelwedd draddodiadol o'r ffermwr gan iddi weithio gyda'r cwmni hysbysebu byd-enwog Saatchi & Saatchi yn Llundain cyn amaethu.
Ond mae hi'n dweud bod ei holl brofiadau cyn dechrau ffermio wedi ei helpu i ddygymod gyda'r holl newidiadau sy'n digwydd yn y byd amaeth.
Fe gafodd ei magu gan ein nain a'i thaid a'i thri ewythr ar fferm Pen Ffridd ym Mhenmachno, ger Betws-y-Coed.
Ond ar ôl astudio celf a dylunio yn Preston fe symudodd i Lundain lle bu'n gweithio i gwmni diogelwch ym mhencampwriaeth Wimbledon a thu ôl i'r bar mewn tafarn.
Daeth yn ffrindiau gydag un o'r cwsmeriaid oedd yn gweithio i gwmni hysbysebu a chyfathrebu byd-enwog Saatchi & Saatchi.
Gweithio yn Soho cyn teithio'r byd
"Trwyddi hi geshi gychwyn yno - fel profiad gwaith i gychwyn, am wythnos dwi'n meddwl," meddai ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.
"Dwi'n cofio meddwl 'reit rhaid mi neud fy hun mor handi a fedra i rŵan a gwneud gymaint o de a fedra i a hyn a llall'. A dyna neshi - a geshi waith yna.
"Ac roedd hynny'n adeg mor gyffrous - cael dylunio hysbysebion, cael bod yn rhan o'r tîm yn rhoi'r hysbysebion at ei gilydd mewn stiwdios yn Soho a'r swyddfeydd o dan y twr BT jest wrth ymyl Charlotte Street yn Llundain."
Ar ôl cyfnod yn teithio'r Dwyrain Pell ac Awstralia, fe symudodd yn ôl i fyw ar y fferm a gweithio yn y cyfryngau cyn ennill prentisiaeth gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Straeon perthnasol:
- Cyhoeddwyd11 Mai
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
A dywed bod ei chefndir mewn cadwraeth wedi bod o gymorth ers iddi hi a'i gŵr John gymryd yr awenau yn y fferm deuluol.
Meddai: "'Da ni o hyd yn teimlo 'da ni'n eitha' ffodus achos natho ni gymryd y ffarm drosodd tair blynedd yn ôl pan oedd y newidiadau [i'r byd amaeth] i gyd yn cychwyn. Felly does geno ni ddim yr hanes hir a'r bridiau, ac fel mae pobl wedi adeiladu eu ffermydd dros y blynyddoedd.
"Mae gen i gymaint o barch tuag at y ffermwyr yna… ond i fi a John doedd dim dewis.
"Roedda' ni isho symud ymlaen efo'r elfen amgylcheddol a dod â gwerth i'r cynnyrch oherwydd hynny."

Un o'r ffyrdd mae teulu Pen Ffridd wedi arallgyfeirio ydi drwy gynnig teithiau merlod
"I ni mae o'n dod yn eitha' naturiol achos mae gen i a John gefndir efo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a 'da ni'n dau wedi darllen ac astudio ac wedi siarad efo ffermwyr o bellach draw sy'n defnyddio'r dulliau yma felly 'da ni wedi medru dysgu.
"Ond dwi'n meddwl bod o'n andros o anodd i gael y wybodaeth o sut i neud o - digon hawdd deud wrth ffermwyr 'tyda chi'm yn cael gwneud hyn'."
Ychwanegodd bod hi a'i gŵr yn gallu gwneud bywoliaeth gan fod gwahanol elfennau i'r busnes - ac yn hysbysebu'r cyfan ar y cyfryngau cymdeithasol.
Maen nhw'n gwerthu cig sydd wedi ei fagu ar wair yn unig yn uniongyrchol i'r cwsmer, a gwlân i arddwyr er mwyn cadw lleithder yn y pridd.
Maen nhw hefyd yn cyd-weithio gyda'r RSPB a'r Wildlife Trust, yn rhoi gwersi ioga ac yn cynnig lle i aros mewn cwt bugail.
Meddai: "'Da ni jest yn mentro o hyd a 'neud llwyth o gamgymeriadau - ond fel yna mae rhywun yn dysgu."
Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol am 18:00 dydd Sul, 18 Mai neu ar BBC Sounds.