/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Munster 23 - 7 Y Gweilch

Gweilch v MunsterFfynhonnell y llun, HUW EVANS PICTURE AGENCY
  • Cyhoeddwyd

Colli fu hanes y Gweilch o 23 i 7 yn erbyn Munster nos Wener yn rownd go-gynderfynol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Y tîm cartref oedd ar y blaen o'r cychwyn, gyda Simon Zebo a Niall Scannell yn sgorio i'r tîm yn yr hanner cyntaf ym Mharc Thomond.

Er i'r Gweilch gael cychwyn addawol gyda Keelan Giles yn sgorio'n gynnar, roedd y tîm yn ei chael hi'n anodd i gystadlu â'r Gwyddelod.

Gyda Munster yn parhau i amddiffyn yn gryf, nhw oedd ar y blaen o 17-7 ar yr hanner.

Parhau i reoli'r chwarae wnaeth Munster yn yr ail hanner gyda Crowley yn sicrhau cais arall gan sicrhau mantais i'r tîm cartref o 23-7 ar y chwiban olaf.

Nid oedd y Gweilch wedi ennill yn Thomond Park ers 12 o flynyddoedd.

Bydd Munster yn mynd ymlaen i'r rownd gyn derfynol ar 15 o Fehefin yn erbyn naill ai Glasgow Warriors neu'r Stormers.

Pynciau cysylltiedig