'Pwysig iawn bod yr Eisteddfod wedi dod i'r ardal yma'
Mae Bronwen Lewis yn dweud eu bod hi'n "bwysig iawn bod Eisteddfod yr Urdd wedi dod i ardal Castell-nedd Port Talbot".
A hithau'n Llywydd y Dydd ddydd Mercher, dywedodd y gantores o Ddowlais ei bod yn "sbesial iawn" gweld pobl yr ardal yn defnyddio eu Cymraeg.
Ychwanegodd ei bod yn "freuddwyd yn dod yn wir" cael cyfansoddi Cân y Croeso gyda Huw Chiswell, a "bydd Mam-gu yn proud tu hwnt!"
Eleni mae 36 ysgol cyfrwng Saesneg wedi cymryd rhan yn yr Eisteddfod, ac mae cynnydd o 42% yn nifer y cystadleuwyr sy'n ddysgwyr, rhywbeth y mae Bronwen Lewis yn ei groesawu'n fawr.
Roedd o'r farn bod yr Eisteddfod wedi esblygu dros y blynyddoedd a bod yr ŵyl bellach yn fwy agored i'r dysgwyr a'r di-Gymraeg.
Wrth sôn am y cyfnod pan oedd ei rhieni yn dysgu Cymraeg, dywedodd nad oedden nhw'n teimlo fel eu bod yn "ffitio i mewn" pan oedden nhw'n dod i'r Eisteddfod, ond bod hynny wedi newid yn llwyr erbyn hyn.
"Maen nhw'n gallu gweld cymaint o wahaniaeth."
"Mae'r Urdd yn moderneiddio, yn bod yn fwy agored, gyda drysau llydan i ddysgwyr, a dyna sy'n cryfhau'r iaith," meddai.