/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pro 14: Y Scarlets i wynebu'r Gweilch yn y gemau ail-gyfle

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn Jones tackles Ken OwensFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Gweilch yn herio'r Scarlets yn Stadiwm Liberty ar 17 neu 18 Mai

Bydd y Scarlets yn herio'r Gweilch yn y gemau ail-gyfle er mwyn hawlio lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf.

Fe wnaeth y ddau dîm sicrhau eu lle yn y pedwar uchaf wedi dwy gêm hynod o gyffrous yn Dydd y Farn.

Fe orffennodd y Gweilch yn bedwerydd yn Adran A cynghrair y Pro 14 wrth i gic gosb hwyr gan Sam Davies sicrhau buddugoliaeth o 26-23 yn erbyn y Gleision.

Er bod y Scarlets wedi colli yn erbyn y Dreigiau dydd Sadwrn, roedd y ddau bwynt bonws yn ddigon i selio eu lle yn y pedwerydd safle yn Adran B y Pro 14.

Roedd y Scarlets yn ddibynnol ar ganlyniadau Benetton a Chaeredin, ac roedd buddugoliaeth Glasgow yn erbyn Caeredin yn ddigon i'r Scarlets sicrhau'r pedwerydd safle.

Bydd y Gweilch yn herio'r Scarlets yn Stadiwm Liberty ar 17 neu 18 Mai.