/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pro14: Gweilch 10-20 Connacht

  • Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch ond wedi ennill un o'u pum gêm agoriadol yn y Pro14Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweilch ond wedi ennill un o'u pum gêm agoriadol yn y Pro14

Mae Connacht yn parhau ar frig tabl B y Pro14 wedi iddynt sicrhau buddugoliaeth yn erbyn y Gweilch ar Stadiwm Liberty.

Niyi Adeolokun a seren y gêm Peter Robb a roddodd reolaeth i'r Gwyddelod yn yr hanner cyntaf wrth iddynt sgorio dau gais ac fe ychwanegodd cicio celfydd Conor Fitzgerald bwyntiau i'r sgôr.

Y sgôr ar yr hanner oedd y Gweilch 3-17 Connacht - y tri phwynt wedi dod i'r Cymry drwy gic gosb Luke Price.

Fe gafodd Sam Parry gais yn yr ail hanner i'r Gweilch ond doedd Connacht ddim yn ildio.

Er y cais doedd yna fawr o gysur i'r Gweilch wrth i Dan Lydiate gael carden felen ac roedd yna siom pellach wrth i gic gosb Cai Evans fethu.

Mae'r Gweilch felly wedi colli pedair y tymor hwn ac mae tîm Allen Clarke yn chweched yng ngrŵp A.