/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pro14: Connacht 20-26 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
George North yn tirio'n gynnar er gwaethaf her Peter SullivanFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

George North yn sgorio cais cynnar i roi'r Gweilch ar y blaen er gwaethaf her Peter Sullivan

Bu'n rhaid i'r Gweilch frwydro i guro Connacht o 26 i 20 oddi cartref yn y Prol4 ar ôl bod 12 pwynt ar ei hôl hi ar yr egwyl.

17-5 oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf, er i George North sgorio cais cyntaf y gêm.

Cafodd cyfleoedd pellach i ychwanegu pwyntiau yn yr hanner cyntaf eu gwastraffu wedi sawl achos o gam-drafod y bêl cyn i Alex Wootton a Peter Boyle roi Connacht at y blaen.

Ond fe gododd yr ymwelwyr eu gêm yn yr ail hanner, gyda Mat Protheroe'n tirio a cyn i gais Rhys Webb roi'r fantais unwaith yn rhagor i'r Gweilch.

Roedd yn fuddugoliaeth haeddiannol i'r Gweilch sydd nawr wedi curo chwe gêm o'r saith diwethaf.

Pynciau cysylltiedig