/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cwpan yr Enfys y Pro14: Scarlets 22-6 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Helpodd Jonathan Davies ei dîm i fuddugoliaeth yn dilyn y siom o beidio â chael ei ddewis ar gyfer carfan y Llewod eleni

Llwyddodd y Scarlets i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth Cwpan yr Enfys y Pro14 wrth drechu'r Gweilch mewn tywydd gwael ar Barc y Scarlets.

Dim ond un cais a sgoriwyd drwy gydol y gêm, gyda'r prop Alex Jeffries yn croesi i'r Scarlets ar ôl gwaith da gan Jonathan Davies.

Cicio cywir Leigh Halfpenny oedd yn gyfrifol am weddill pwyntiau'r tîm cartref, gyda throsiad llwyddiannus a phum cic gosb.

Llwyddodd Luke Price gyda chic gosb ym mhob hanner i'r Gweilch, ond doedd hynny ddim yn ddigon i'w cadw nhw o fewn cyrraedd eu gwrthwynebwyr.

Pynciau cysylltiedig