/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-3 Stoke City

  • Cyhoeddwyd
Morgan WhitakerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Morgan Whittaker i'r Elyrch gydag ond dau funud ar y cloc

Collodd yr Elyrch am yr ail waith mewn wythnos er gwaetha'r cychwyn perffaith nos Fawrth.

Roedd y tîm cartref ar y blaen wedi ond dau funud diolch i Morgan Whittaker.

Ond trodd y gêm ar ei phen yn llwyr diolch i ddwy gôl gan Josh Laurent wedi 15 a 19 munud, er mawr sioc y cefnogwyr cartref.

Seliwid y fuddugoliaeth yn ystod eiliadau ola'r gêm wrth i Lewis Baker sgorio trydydd tim Alex Neill - eu cyntaf oddi cartref ers fis Rhagfyr.