/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-3 Middlesborough

  • Cyhoeddwyd
Chuba Akpom yn sgorio o'r smotyn yn erbyn AbertaweFfynhonnell y llun, Gareth Everett
Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim gobaith i Abertawe wedi i Chuba Akpom sgorio o'r smotyn

Parhau mae rhediad siomedig Abertawe yn y Bencampwriaeth wedi iddyn nhw gael eu trechu o dair gôl i un ar eu tomen eu hunain gan Middlesborough

Fe roddodd Joël Piroe yr Elyrch ar y blaen o fewn chwarter awr gydag ergyd droed dde o ganol y blwch i waelod gornel dde'r gôl.

Ond fe darodd Middlesbrough yn ôl yn yr ail hanner gyda goliau gan Aaron Ramsey (54), Cameron Archer (57) a Chubs Akpom, o gic o'r smotyn, wedi 77 o funudau.

Mae Abertawe'n aros yn 17eg safle'r tabl tra bod Middlesborough'n dal yn drydydd.