Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Motor Niwron: Siwrna Sioned

Aled Hughes sy'n holi Sioned Roberts-Jones o Lanrug, un o'r 10 % o bobol sy'n byw 10 mlynedd neu fwy gyda motor niwron. Sioned Roberts-Jones' jounrey with MND.

Mae person sy’n cael diagnosis clefyd Motor Niwron, neu MND yn debygol o farw o fewn 5 mlynedd o’r diagnosis, a 10 % o’r bobol hynny yn byw 10 mlynedd neu fwy.

Mae Sioned Roberts-Jones o Lanrug yn un o’r bobol hynny. Yn wraig, yn fam, yn nain, yn ysbrydoliaeth lwyr, mae Sioned yn rhoi gobaith fod modd byw gyda chlefyd sy’n lladd.

Mis Hydref yma, mae’n 15 mlynedd ers ei diagnosis. Aled Hughes sy'n cyflwyno Siwrna Sioned gyda Caryl Williams ei merch, Dylan Roberts ei brawd a'r arbenigwr Dr Rhys Davies.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 13 Hyd 2021 18:00

Darllediadau

  • Sul 10 Hyd 2021 18:30
  • Mer 13 Hyd 2021 18:00