/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Allen yn gobeithio am rôl flaenllaw yng ngemau Cymru

Mae Joe Allen yn dweud ei fod yn gobeithio chwarae rhan flaenllaw yn y gemau yn erbyn Twrci a Gwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd dros yr wythnos nesaf.

Ar ôl ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd 2022, fe ddychwelodd i’r garfan fis diwethaf ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad yr Iâ a Montenegro ar ôl newid ei feddwl.

Fe ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Montenegro, a gan ei fod wedi chwarae’n fwy rheolaidd i’w glwb Abertawe yn ddiweddar, mae’n teimlo’n barod i gyfrannu mwy y tro hwn.

Mae angen i Gymru osgoi colli yn Nhwrci nos Sadwrn os am unrhyw obaith o orffen ar frig eu grŵp, ac ennill dyrchafiad yn ôl i brif haen y gystadleuaeth.