Gwisg las: 'Byddai 'nhad mor falch i glywed y newyddion'
Un o'r rhai a fydd yn cael ei hurddo i'r wisg las yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yw Maxine Hughes - newyddiadurwraig yn Washington DC a 'chyfieithydd swyddogol' perchnogion clwb pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Wrth glywed y newyddion dywedodd ei bod yn "anrhydedd enfawr" cael ei chydnabod gan yr Orsedd ac hefyd hi yw Arweinydd Cymru a'r Byd eleni.
Mae ei thad, a fu farw ym mis Rhagfyr, yn dod o Wrecsam.
"Dwi'n meddwl y buasai ef mor falch a hapus i glywed y newyddion," meddai, "a dwi'n edrych ymlaen i ddod a fy nheulu o America draw i Wrecsam ym mis Awst."