/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-0 Queens Park Rangers

  • Cyhoeddwyd
Courtney Baker-RichardsonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Abertawe wedi llwyddo i ennill am y tro cyntaf mewn pedair gem gyda buddugoliaeth gyfforddus gartref yn erbyn Queens Park Rangers.

Aeth tîm ifanc yr elyrch ar y blaen drwy gôl gyntaf Courtney Baker-Richardson i'r clwb wedi 16 munud.

Dylai'r Elyrch fod wedi dyblu'r fantais munud yn ddiweddarach, ar ôl i waith ardderchog gan Connor Roberts arwain at gyfle euraidd i Baker-Richardson, ond fe hedfanodd ei ergyd dros y trawst.

Parhau i greu cyfleoedd wnaeth y tîm cartref ond roedd rhaid i'r dorf aros am 76 munud i weld Connor Roberts yn ychwanegu'r ail.

Llwyddodd Jay Fulton i goroni'r fuddugoliaeth gyda'r drydedd pum munud yn ddiweddarach.

Roedd un wyneb cyfarwydd iawn yn nhîm QPR heddiw, wrth i Angel Rangel ddychwelyd i'r Liberty am y tro cyntaf ers gadael y clwb diwedd y tymor diwethaf, ond ni allai rwystro'i gyn-glwb rhag ennill y triphwynt.

Golygai'r canlyniad fod Abertawe yn codi i'r seithfed safle, tra bod QPR yn gostwng i safle 19.