/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Bencampwriaeth: Wigan 0 - 0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Oli McBurnieFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Oli McBurnie o'r Elyrch bedair gôl i'w enw hyd yma y tymor hwn

Fe sicrhaodd Abertawe bwynt gwerthfawr wrth iddyn nhw ymweld â Wigan yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Maen nhw bellach yn safleoedd y gemau ail-gyfle, un safle yn uwch na'r tîm cartref.

Yr Elyrch bwysodd yn bennaf yn yr hanner cyntaf, ond y Latics a reolodd y gêm yn yr ail hanner.

Ac er gwaetha ymdrech funud olaf gan Oli McBurnie i rwydo dros yr Elyrch, fe orffennodd y gêm yn ddi-sgôr.