/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Bencampwriaeth: Rotherham 2-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Oli McBurnieFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Oli McBurnie sgoriodd unig gôl Abertawe

Roedd hi'n fuddugoliaeth annisgwyl i Rotherham yn erbyn Abertawe, yn dilyn wyth colled yn olynol i'r tîm.

Er gwaetha' gôl Oli McBurnie yn rhoi Abertawe ar y blaen, ni lwyddwyd i gynnal y momentwm.

Er nad oedd y tîm cartref yn fawr o fygythiad i'r Elyrch, roedd anallu'r ymwelwyr i sgorio eto'n cynnig cyfle i Rotherham.

Daeth dwy gic o'r smotyn - a gymerwyd gan Ryan Manning - â'r tri phwynt angenrheidiol i'r tîm.