/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pro14: Gweilch 14-16 Southern Kings

  • Cyhoeddwyd
GweilchFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd hi'n brynhawn i'w anghofio i'r Gweilch ddydd Sadwrn wrth i Southern Kings ennill gêm oddi cartref am y tro cyntaf y tymor hwn yn Stadiwm Liberty.

Erich Cronje sgoriodd unig gais yr hanner cyntaf, gyda Scott van Breda yn cicio'r gweddill i'w gwneud yn 0-13 i'r ymwelwyr ar yr egwyl.

Er i'r Gweilch daro 'nôl gyda cheisiau gan Morgan Morris a Hanno Dirksen, roedd un gôl gosb yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm o Dde Affrica.

Dim ond unwaith mae'r Gweilch wedi ennill hyd yn hyn y tymor hwn, gyda Zebre yn unig yn is yn y tabl yn Adran A y Pro14.