/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pro14: Gweilch 16-19 Gleision Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Jarrod Evans a Rey Lee-Lo yn dathlu unig gais y GleisionFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Jarrod Evans a Rey Lee-Lo yn dathlu unig gais y Gleision

Fe wnaeth Gleision Caerdydd oresgyn disgyblaeth wael i drechu'r Gweilch mewn gêm ddarbi Gymreig o ansawdd isel yn Abertawe.

Cafodd dri o chwaraewr yr ymwelwyr gerdyn melyn gyda Filo Paulo, Tomos Williams a Josh Adams yn cael eu cosbi ar Stadiwm Liberty.

Profodd cais ail hanner gan Jarrod Evans yn dyngedfennol cyn i gic gosb hwyr Jason Tovey selio'r fuddugoliaeth.

Llwyddodd y Gweilch i gael cais cosb a thair cic gosb gan Marty McKenzie - ond doedd hynny ddim yn ddigon.

Mae'r Gweilch bellach wedi dioddef 11 colled mewn 12 gêm y tymor hwn.