Main content

Cerddi Rownd 2 2025

1 Pennill bachog: Awgrym ar gyfer treth newydd

Tir Iarll
Man a man, treth cynghanedd:
Os oes bai, neu’n cynnwys ‘bedd’ –
‘gwae’ neu ‘ing’ ‘gwaneg’ neu ‘hen’,
‘afraid’ neu ‘Aberhafren’,
ar yr holl erchylltra hwn
hyn o dariff a darwn;
hanner hyn am leins bach rhad,
dau draean am hen drawiad.

Tudur Dylan Jones 8.5

Aberhafren

Tasai pobl yr holl wledydd,
boed labrwr, King neu fet
yn rhoi punt bob tro mae gwleidydd
yn siarad drwy ei het,
fe ellid datrys pob un mess
a fforddio pedwar NHS.

Llion Pryderi Roberts 9

2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â gwersylla

Tir Iarll
Caled i un yw cael dau
Mewn hamoc, dwi’m yn amau.

Aneirin Karadog 8.5

Aberhafren
Mae oes lawen, amgenach
yn dod o fwg y stof fach.

Sion Tomos Owen 8.5

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mor braf yw dychwelyd i Hermon’

Tir Iarll
Ai am fod y beirdd yn rhai mawrion
y llenwyd y lle i’r ymylon?
Na! ’r enwog grîm hôn
yw’r dynfa’n y bôn ...
mor braf yw dychwelyd i Hermon

Mererid Hopwood 8.5

Aberhafren

Mor braf yw dychwelyd i Hermon
sy’n rhoi cystal gloddest i feirddion,
brechdanau mor flasus
cream horns a’r holl sbynjus,
bydd lastig fy nhrowsus yn yfflon.

Llion Pryderi Roberts 8.5 

4. Cadwyn o dri englyn unodl union i unrhyw olygfa benodol

Tir Iarll
Y Traeth o flaen y Tŷ

Be’ weli di ar dy hynt, ond rhythu
Ar y traeth a’r cerrynt?
Byddi’n mynd heibio iddynt
Fel ewyn gwyn gyda’r gwynt.

Y gwynt tyner, sy’n gwneud tonnau ar fôr
I’r torfeydd; I minnau
Mae’r teid yn llawn cyndeidiau
A llwybrau trân lle bo’r trai.

Yno ar y trai digynnwr’ y caf
Weld ôl cwch pysgotwr
Wrth ei waith; eto deithiwr,
Be’ weli di ond y dŵr?

Emyr Davies 9.5

Aberhafren (AP)

Dig yw’r bloc, daw geiriau blin, rhy sobor
y subway, aeth chwerthin
gwâr yr hwyr fel deilen grin,
aeafol ar y pafin.

O’r pafin, llithraf innau am encil
a mainc hwnt i furiau,
a helyg a cheffylau
tir glas o’m cwmpas sy’n cau.

Dod i gau rhwng stryd a gwig mae natur
Manhattan, mae’n cynnig
ei hannedd yn galennig
hael y dydd, heb ddala dig.

Mari George yn darllen gwaith Aron Pritchard 9

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Dwedodd rhywun wrthyf unwaith’
neu ‘Wrthyf unwaith dwedodd rhywun’

Tir Iarll
Wrthyf unwaith dwedodd rhywun,
‘Plis dos efo Deio i Dywyn.’
Gwell gen innau ugain milltir
Efo Mistar Jones o’r Brithdir.

Emyr Davies 8.5

Aberhafren (LlP)
Wrthyf unwaith dwedodd rhywun:
‘I wneud chwip o bennill telyn
rhaid cael llinell olaf berffaith’...
ddwedodd rhywun wrthyf unwaith.

Llion Pryderi Roberts 9

6 Cân ysgafn: Talu’r Biliau

Tir Iarll

I mi, ’di talu’r biliau ddim problem, does dim hitch,
am mod i wedi hacio i gyfri tîm talwrn Aron Pritch.

Ces fil am drwsio’r llechi ar ran rhyw Jac y Do,
a’r culprit oedd yn chwerthin, ‘Ho ho ho ho ho ho.’

Ac yna yn annisgwyl, ces fil am basio dŵr,
sef croesi pont dros afon yn ymyl Côte d’Azur.

Ces ddirwy am sol-ffa-eiddio gan griw’r Hen Nodiant, Do,
fe’u gwylltiwyd yn ffyrnicach pan atebais innau, ‘Soh?’

Ces fil am gyfrol newydd, ‘Procrastinate – pam lai?’
Cyrhaeddodd ddechrau Chwefror, ond fe’i talaf ddiwedd Mai.

Agorais y bil trydan, a do fe gefais sioc.
Ces fil am hanner pendil, fe af i’w dalu, toc.

Ces fil am grys fel ffermwr Cefn Gwlad S4C,
crys streipiog sgwariog llwydfrown; fe’i talaf efo check.

’Ran hwyl, mi rof anfoneb i’r tîm fan draw yn llon,
am mai fi di’r genius sgwennodd y gân sy’n erbyn hon.

Mae’r gân ar ddod i’w therfyn, mi stopia’i yma wir
rhag gorfod derbyn dirwy ei bod hi’n lot rhy hir.

Ond os bydda i’n cael y ddirwy, mi chwarddaf nes cael stitch,
nid fi fydd raid ei thalu, ond sidekicks Aron Pritch.

Tudur Dylan Jones 9.5

Aberhafren (STO)

Sneb yn lico talu biliau, cyfrifydd na sili bili...au
o'r bilwnydd ar ei wyliau i’r pwr dabs, fel chi a minnau.
Er fel rheol sai'n dweud celwydd, rwy’n foesol ddinesydd dedwydd
ond daw criw â thrachwant newydd, felly dyma fy addewid;

sai’n mynd i dalu! Dwi’n mynd i chwalu
unrhyw un sy'n gofyn, gewn nhw nodyn IOU,
a phan dwi'n siopa na'i gynnig swopan
caricature am fag o Skittles neu Don Perignion Grand Cru!

Fe ddeith y beili os ydw i'n ffaelu
talu'r rhestr hir dwi ’di penderfynu ei osgoi,
ac am fy safiad fe ga'i ddyrchafiad
i fyw heb dalu, ond am ddyled i’r gymdeithas, does dim ffoi.

Nawr yn y carchar rhaid talu'r anwar
a does dim newid na blewyn ar dafodau dynion blin.
Fe gei di godwm os nad oes offrwm,
fel smyglo pethau mewn i'r gell i fyny dy dwll...

Ond does dim talu biliau yn y big house,
Malboros yw y fasnach yn y fan hyn,
dwi'n cael dod mas mewn deuddeg mis er mod i'n cyfri ar wyth bys
sai'n difaru rhoi dau lan i dalu biliau.

Sion Tomos Owen 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Plannwn ni’r peilonau hyn

Tir Iarll

Plannwn ni’r peilonau hyn
A’u rhoi dan ddaear wedyn

Aneirin Karadog 0.5

Aberhafren

Heb bryder am aderyn
Plannwn ni’r peilonau hyn

Llion Pryderi Roberts 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Bore Sul

Tir Iarll

A dyma’r haul yn atgyfodi eto, eto’n
goleuo’r wyrth sydd o hyd ar waith:
yr adar ar eu taith heibio’r tai, yn tywallt
eu hemynau dros y toeau; y tegell
drws nesaf yn gwichian rhyw weddi
a’r fam yn y ffenestr â’i babi
yn ei breichiau, y ddefod feunyddiol
o roi ei dalcen dan y dŵr; congregasiwn
o garnasiwns yn plygu pen yn y pridd, ac o rywle –
saith o nodau piano yn dringo i fyny ac i lawr,
yn ddiog, hagr, anghywir o hardd.
O’r ardd, dwi’n cau fy llygaid.
Y cysur anghysegredig o gael bod yn eu plith.
Dan draed: y gwlith yn fy mendithio.

Aneirin Karadog yn darllen gwaith Gwynfor Dafydd 9.5

Aberhafren

Bellach ochr cae yw’r capel i mi,
lle mae mwd cydwybod
yn cerdded trwof i
ac euogrwydd a dyfodd yn rhy hir
yn fy maglu.

Ond nid yw mwd yn broblem i fy mab a’i bêl,
mae’n rhedeg drwyddo,
wrth ddal cyfle yn dynn wrth ei galon,
plethu angerdd drwy’r gweirynnau gwan,
ochrgamu heibio’r amheuon,
tasgu am y bwlch,
a gweld yn glir i ble mae’n mynd.

Wedyn,
rwy’n crafu’r mwd sych o waelod y bŵts,
gan wybod na chaf fyth
ei wared i gyd.

Mari George 9.5

9 Englyn: Pair

Tir Iarll
Google Translate: English-Welsh

Bwr hi, dy iaith, i’w bair hud – ac aros
am ein geiriau, ennyd;
er eu dod nid yw’r dwedyd
ond stŵr main, diystyr, mud.

Mererid Hopwood 9.5

Aberhafren (AP)

Fesul rheng, maen nhw’n trengi, yr achau
fel crochan yn berwi,
ac fe wn na welwn ni
yn ei dân, eu dadeni.

Sion Tomos Owen yn darllen gwaith Aron Pritchard 9