1 Pennill bachog: Y Gair Ola
Beca
Mae bod ar y Talwrn
‘Run peth a tŷ ni;
Pwy gaiff y gair olaf?
Wel ie, dim fi.
Eifion Daniels 8.5
Crannog
Neges o’r wraig ddiwetha:
“Mae’r briodas nawr ar ben.”
Tecstiais nôl yn swta:
‘Haleliwia ac Amen!’.
John Rhys Evans yn darllen gwaith Eirwyn Williams 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â rygbi
Beca
Y mae barn y dyfarnwr
Er ein siom, yn iawn, rwy’n siwr.
Rhiannon Iwerydd 9
Crannog
Ar gaeau’r gêm dragywydd
I olwyr iau rhowch bêl rydd.
Philippa Gibson yn darllen gwaith Idris Reynolds 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pe bai gen i’r amser a’r awydd’
Beca
** Dilëir yn ôl eich gweledigaeth personol
**Pan ddaw/ Os daw Ceri Wyn yn Archdderwydd,
Mi sgwenna i whompen o gywydd
Yn canmol ‘i gampe
Lan fry i’r cwmwle,
Pe bai gen i’r amser a’r awydd.
Eifion Daniels 8.5
Crannog
Pe bai gen i’r amser a’r awydd
Fe geisiwn i fod yn gynghorydd
Ond nid fel y rhai
Sy’n methu a chau
Y tyllau sydd yn yr heolydd.
Gillian Jones 8
4. Cadwyn o dri englyn unodl union i unrhyw gymeriad chwedlonol
Beca
Twm Carnabwth
Dirgelwch Culhwch sydd i’r Cwm, - cuddle
A nythle’n bro noethlwm,
O Garnabwth fel cwthwm
Lle bu’r Twrch, bu llwybrau Twm.
Twm, ŵr garw! Dere i arwain – doed a ddêl
O’r Fwêl i’n hoes filain.
Och! synau croch sy’n Wcrâin
A chlwyfo a chrochlefain.
Crochlefain uchel welwch – yn chwimwth
Drwy’r dychymyg. Codwch,
Er y llaid, yn ewn o’r llwch
O dir gwawl pob dirgelwch.
Rachel James yn darllen gwaith Wyn Owens 9
Crannog
Lucy Gray
Anwel yw lled yr edau – a una
ddau hanner y chwedlau,
y gwir a manylion gau,
a’r rhithiol sy’n wir weithiau.
Weithiau yn y golau gwyn – a erys
wedi’r eira sydyn,
mae o hyd i’r sawl a’i mynn
yno lantern a phlentyn.
Plentyn y tirwedd unig – a’n huda
o hyd tua’r goedwig,
a hwnt i’r allt honno trig
y lodes anweledig.
Gillian Jones yn darllen gwaith Idris Reynolds 9.5
5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Camgymeriad yw camgymryd’
Beca
Camgymeriad yw camgymryd
Bod yr haul yn hybu’r iechyd;
Tra bo croen y trwyn yn cochi
Mae’i belydrau yn ymborthi.
Rachel James 8
Crannog
Camgymeriad yw camgymryd
Troi i ardd at gi dychrynllyd
Camgymeriad gwaeth na hwnnw
Ffeindio mas bod buwch yn darw.
John Rhys Evans 8.5
6 Cân ysgafn: Hapchwarae
Beca
Hip-hap, hip-hapchwarae (i’w pherfformio ar ffurff rap;)Dyw casino gwylltia’r byd ddim yn y Rhyl nag LA;
Mae’n swatio’n gudd yn nwnjwns du yr Emlyn Café,
Man o hip-hapchwarae i feirdd caletaf y wlad,
Jyst peidiwch dweud wrth Jim Parc Nest, Yr Heddlu na’n nhad.
Mae’n beryg bywyd croesi ni, o ie mae Beca’n y bwci
Mae cardiau Eifion Daniels yn eich troi chi’n ŵyn swci
Ac mae hitmen cyfrinachol Wyn yn eistedd da’r Orsedd
Yn y cefn yn snortio ambell linell hir o gynghanedd.
Hip; hap; hip-hapchwarae
Dangoswch chwarae teg, a chaewch y drysau
Ceri Wyn yw’r crupiere, meistr y tasgau,
Mewn casino annheg, a fydd e’n rhoi deg?
Fe lithrodd gŵr mewn tux i mewn â golwg hyderus,
Gan gyhoeddi’n hy: “yr enw ydy Reynolds... Idris”
Ond er yr englyn lan ei lawes, daliwyd ef yn y rhwyd -
Collodd filiwn mewn un ornest gydag – Alan Llwyd!
‘Sgandal fwya’r noson oedd pan gamblodd rhyw granc
Ar gystadleuaeth y gân ysgafn, ac fe dorrodd y banc!
Ond gwenodd Ceri Wyn a phêr-gyhoeddi yn sobr:
“Am resymau pur anhysbys fe atelir y wobr.”
(cytgan)
Lefi Dafydd 9
Crannog
Yr oedd ei dad yn joci ac enw’i fam oedd Bet
a galwyd yr un bychan yn Lester ap Roulette.
Yn dipyn hŷn na’i oedran, chwaraeai crib o’r crud
a phan fynychai whistdrive fe gasglai’r triciau’i gyd.
Tra gwelir plant bach heddiw yn dwli’n lân ar Cyw,
fe fentrai ef ei geiniog ar fotor beics Bellevue.
Pa ots am Sali Mali, roedd yntau ar Bet Fair
yn disgwyl am ganlyniad yr half past three yn Ayr.
Wrth drin a thrafod arian roedd ganddo agwedd iach
ac ef o hyd a’i sweepstakes oedd bwci’r ysgol fach.
Yn y neuaddau Bingo bu wrthi’n cadw trefn,
daeth ‘House’ yn rhan o’i eirfa, Kelly’s Eye a ‘Legs Eleven’.
‘Beth ydyw’r odds?’ gofynai, boed ludo neu bontoon,
ac nid oedd dim na wyddai am fyd y rasys cŵn.
O fet i fet aeddfedodd o gemau Taid a Nain
a bellach mae yn gamster ar chware Snap-on-Line.
Ac mae yr hen bererin yn dal i bwsho’i lwc
yn chwilio am y ceffyl all glirio Beachers Brook.
Fe fetiai ef ar rywbeth sy’n symud ac mi wn
Fod ganddo gryn ddiddordeb yn sgôr y Talwrn hwn.
Gillian Jones yn darllen gwaith Idris Reynolds 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Yn y Betws ces botel
Beca
Yn y Betws ces botel
Wisgi haul a châsg o êl
Eifion Daniels 0.5
Crannog
Yn y Betws ces botel
Neis yw Bass na chês ers sbel
John Rhys Evans
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gwrthod
Beca
Fel cwthwm o wynt rheibiodd y tŷ o’i dwmpri:
Gorweddai bwndel o blu a geriach wrth droed y grisiau.
Dilynais y llwybr o edafedd at ddrws ei llofft
lle chwyrnai ei pheiriant gwnīo.
Agorais lifddorau ei ffatri fach
A’i chanfod ymhlith ei thrysorau
o ddefnydd , rhubanne a botymau
yn blith draphlith ar lawr.
“Cymoni?”
Rhegaf yn dawel cyn dechrau cyfrif,
cyn codi llais,
a datgan fy nedfryd.
Ofer fu’r ymgais.
“O sdim ots mam– edrych ar hwn!”
Cododd o’i hannibendod a chynnig o’i llaw
ei byd o sidan glas yr awyr:
clytwaith o berci hafal a’i orwel di - derfyn.
Plennais gusan ar ei thalcen a chau’r drws.
Rhiannon Iwerydd 10
Crannog
Hen ddigon! Af i ffwrdd ac af heb ffôn
gan adael bîps y byd a wad eu trwst;
fe wnaf osgoi’r newyddion oll, a’u tôn
fel sgitls yn cwympo, un ’rôl llall, i’r dwst.
Tonfeddi sy’n fy lluchio mysg broc môr
celwyddau’r we, a’r gwir sy’n hacrach byth:
gwrthodaf hyn i gyd a chwilio dôr
i rywle haws, lle gallaf fyw gwell myth.
Rwy’n chwarae yn y tonnau, rhai go iawn,
gan droi llif meddwl yn rhewlif fel na all
goleddu dim, na dirnad, fel pe bawn
heb ofid yn y byd, yn hanner call.
Er hyn, synhwyraf drwch cymylau’n cau
a theimlo ar fy ngwar bothelli’r iau.
Philippa Gibson 9.5
9 Englyn: Gelyn neu Gelynion
Beca
O’r concrid, dur a’r concro, - o bydew
Byd sydd wedi’i ddarnio
 thrais, wyf drwodd a thro
Yn elyn fy hun heno.
Rachel James yn darllen gwaith Wyn Owens 9
Crannog
Gelynion (Adolescence)
Caer wâr fu’u teulu’n ôl cred Dad a Mam,
byd i’w mab diniwed,
ond haid, yn llawn sbeit, a hed
i’w gaer trwy borth agored.
Philippa Gibson 10