/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cefnogwyr yn 'joio' er gwaetha'r tywydd garw ym Montenegro

Fe enillodd Cymru o 2-1 oddi cartref yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Lun.

Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf y rheolwr newydd, Craig Bellamy - a hynny yn ei ail gêm wrth y llyw.

Roedd goliau cynnar gan Kieffer Moore a Harry Wilson yn ddigon i sicrhau'r triphwynt i'r ymwelwyr.

Er y tywydd garw, fe aeth miloedd o Gymry allan i gefnogi'r tîm ym Montenegro.

Dywedodd un cefnogwr ei fod wedi "joio beth weles i er bod y tywydd 'di trio dinistrio'r gêm.

"Triphwynt oddi cartref, bydd unrhyw un yn cymryd hwnna," meddai.

Dywedodd cefnogwr arall fod perfformiadau'r tîm dan arweiniad Bellamy yn addawol iawn hyd yma.