/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cefnogwyr Cymru'n morio Yma o Hyd ym Montenegro

Bydd carfan pêl-droed dynion Cymru yn herio Montenegro oddi cartref nos Lun, gan obeithio adeiladu ar y gêm gyfartal yn erbyn Twrci.

Roedd parti i gefnogwyr Cymru ar y traeth yn nhref Budva ddydd Sul, ble roedd anthem answyddogol y cefnogwyr - Yma o Hyd gan Dafydd Iwan - yn cael ei morio.

Ond nid pawb sydd wedi gallu cyrraedd Montenegro, gyda rhai yn dal i ddisgwyl wedi i'w hediad gael ei ganslo.

Roedd cefnogwyr yn bwriadu teithio o Faes Awyr Caerdydd i Podgorica yn syth ar ôl y gêm rhwng Cymru a Thwrci nos Wener, ond bu'n rhaid i gwmni teithio Wonky Sheep - partner teithio swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru - adael i gefnogwyr wybod na fyddai modd hedfan am fod yr awyren wedi taro aderyn.

Fe benderfynodd rhai cefnogwyr drefnu teithiau i Montenegro o feysydd awyr eraill, ond roedd eraill wedi penderfynu aros yn y gobaith y byddai modd Wonky Sheep drefnu hediad arall.

Hyd at nos Sul, doedd dim awgrym fod hediad arall wedi gadael Caerdydd am Montenegro.